Ymunwch â’r Sgwrs Fawr ar Fabwysiadu

Digwyddiad blaenorol ar gyfer y gymuned yng Nghymru

Dod ag aelodau’r gymuned fabwysiadu at ei gilydd

Mae’r digwyddiad rhithwir hwn yn rhad ac am ddim ac ar gyfer pobl sydd wedi’u mabwysiadu, rhieni sy’n mabwysiadu, gweithwyr cymdeithasol, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, uwch reolwyr, cynllunwyr strategol ac ymarferwyr yn y gymuned fabwysiadu.

Gan ddefnyddio canlyniadau’r arolwg diwethaf o adroddiad Baromedr Fabwysiadu Adoption UK, ynghyd ag ymchwil arall ac ymarfer gorau, mae’r digwyddiad yn gyfle i archwilio pynciau’n fanylach ac i glywed gan amrywiaeth o leisiau o fewn y gymuned.