Cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded

Cefndir 

  • Agorodd Ysgol Calon Cymru ym mis Medi 2018, yn dilyn uno Ysgol Uwchradd Llandrindod ac Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt. Mae'r ysgol yn darparu addysg uwchradd i ddisgyblion 11 - 18 oed ar draws dau gampws yn y ddwy dref.

  • Mae'r ysgol ar daith wella. Er bod llawer o gynnydd wedi’i wneud, daeth yn amlwg fod model dau safle’r ysgol yn cyfyngu ar ei gallu i barhau i dyfu a datblygu.

  • Yn 2020, datblygodd y Cyngor achos busnes a oedd yn edrych ar opsiynau ar gyfer Ysgol Calon Cymru yn y dyfodol. Nododd hwn y cynllun posibl a ganlyn:
    • Campws cyfrwng Saesneg newydd 11-18 yn Llandrindod; a hefyd
    • Campws cyfrwng Cymraeg pob oed (4-18) wedi'i ailfodelu yn Llanfair ym Muallt.

  • Mae'r Cyngor eisiau gwybod barn pobl ar y cynllun posibl cyn dechrau ar y broses gyfreithiol fyddai ei angen i wneud y newidiadau hyn.

  • Er bod prif ffocws yr ymarferiad hwn ar y cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru yn y dyfodol, mae’n bosibl y byddai’r cynlluniau hyn hefyd yn effeithio ar rai ysgolion eraill, yn enwedig Ysgol GG Llanfair ym Muallt.

  • Gallwch adael i ni wybod eich barn am y cynllun posibl trwy lenwi'r holiadur hwn. Gallwch hefyd anfon eich barn atom yn ysgrifenedig at school.organisation@powys.gov.uk neu i'r Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 LG.

Yr Holiadur

  • Rhennir yr holiadur yn adrannau, sy'n canolbwyntio ar wahanol elfennau o'r cynllun posibl ar gyfer Ysgol Calon Cymru.

  • Gan fod y cynllun posibl yn cynnwys newidiadau i ddarpariaeth addysg Gymraeg, mae yna adran hefyd am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Canol a De Powys.

  • Nid oes rhaid i chi ateb pob adran - atebwch yr adrannau sydd o ddiddordeb i chi. 

  • Rhaid anfon pob holiadur erbyn 26 Ionawr 2022.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • Bydd y Cyngor yn paratoi adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau’r ymarfer hwn. Cyhoeddir hwn yn gynnar yn 2022.

  • Yna bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor. Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynlluniau, cynhelir ymgynghoriad ffurfiol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymarfer hwn, gallwch gysylltu â’r Tîm Trawsnewid Addysg trwy e-bostio school.organisation@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826618.

I gael gwybodaeth am sut mae’r Tîm Trawsnewid Addysg yn diogelu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol a gesglir yn ystod prosesau ymgysylltu, gweler yr hysbysiad preifatrwydd Trawsnewid Addysg, sydd ar gael trwy'r ddolen ganlynol: https://cy.powys.gov.uk/article/9804/Hysbysiad-Preifatrwydd-Trawsnewid-Ysgolion