Cefndir

Rydym am i Gymru fod yn wlad deg, ffyniannus a chynaliadwy sy'n gwella ansawdd bywyd pobl yn ei holl gymunedau, a hynny'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Rydym am i fwy o bobl mewn cymunedau a lleoedd nas gwasanaethir cystal gan y celfyddydau allu mwynhau gweithgareddau diwylliannol a chymryd rhan ynddynt.

Trwy Cysylltu a Ffynnu, rydym am gefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo lleisiau, diwylliannau ac ieithoedd amrywiol Cymru:

Prosiectau sy'n golygu rhywbeth ac sy'n bwysig i'r bobl y maent ar eu cyfer, ac sy'n dod o hyd i ffyrdd gwirioneddol ac ystyrlon o'u cynnwys.

Prosiectau a arweinir gan artistiaid ond sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa neu gyfranogwyr; sy’n ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth maent yn ei wneud, gan gynnwys eu dull llywodraethu, eu gweithlu a thrwy'r gweithgarwch a ddatblygir ganddynt.

Prosiectau sy'n dangos dull ymarferol o gynnwys ac adlewyrchu creadigrwydd pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol; pobl ethnig a diwylliannol amrywiol.

Prosiectau sy’n grymuso unigolion a chymunedau sy’n profi neu’n byw mewn ardaloedd o anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.

Beth yw Cysylltu a Ffynnu?

Bydd Cysylltu a Ffynnu yn ariannu prosiectau arloesol, uchelgeisiol a arweinir gan artistiaid, sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa neu gyfranogwyr, ac sy'n ennyn diddordeb y cyhoedd

Trwy Cysylltu a Ffynnu rydym eisiau cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynigion cydweithredol gan sefydliadau, unigolion a gweithwyr creadigol proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd.

Bydd Cysylltu a Ffynnu yn creu cyfleoedd i artistiaid unigol a gweithwyr creadigol proffesiynol o bob cefndir weithio gyda sefydliadau partner creadigol. Hoffem i chi nodi ffyrdd newydd o weithio a fydd yn helpu i ddangos sut y gall y celfyddydau ateb heriau pandemig COVID-19.

Bydd Cysylltu a Ffynnu yn ymofyn partneriaethau i ddarganfod ffyrdd arloesol o weithio sy'n cynnig ymatebion newydd a chadarnhaol i'r angen i'r celfyddydau yng Nghymru ymateb mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon i'r heriau a nodwyd gan Mae Bywydau Du o Bwys a #WeShallNotBeRemoved.

Bydd Cysylltu a Ffynnu yn cefnogi prosiectau gwerth £10,001 i £150,000 am gyfnod hyd at 24 mis.

Rydym eisiau cefnogi prosiectau Cysylltu a Ffynnu sy’n deall ac yn adlewyrchu’r uchelgeisiau sydd yn ein cynllun corfforaethol "Er Budd Pawb" ac yn dangos ymrwymiad i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru a'r "Contract Diwylliannol".

Cysylltu a Ffynnu: gwybodaeth a meini prawf

Mae Cysylltu a Ffynnu yn broses ymgeisio dau gam. Os hoffech wneud cais i’r gronfa yn 2023, bydd angen i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb (Cam 1). Ar ôl proses asesu gychwynnol, byddwn yn gwahodd ceisiadau llawn ar gyfer Cam 2.

Bydd angen i bob prosiect Cysylltu a Ffynnu ddechrau ar ôl 1af o Ebrill 2023.

Mae gwerthusiad o effaith y cynllun ar y gweill a bydd hyn yn llywio penderfyniadau ariannu yn y dyfodol ar ôl y rownd yma.

Cam 1

Cewch gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb o’r 1af o Fedi 2022 nes y dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb am 5.00pm ar 20fed o Hydref 2022. Mae'r cwestiynau a ofynnir ichi yn y ddogfen Ganllaw fel y gallwch ddechrau gweithio ar eich Mynegiad o Ddiddordeb cyn y dyddiad agor.

Ar ôl i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb, cewch benderfyniad o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cau. Os yw nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn golygu nad oes modd cyflawni hyn, rhown wybod ichi cyn gynted â phosibl.

Cam 2

Ar ôl proses asesu, byddwn yn gwahodd Mynegiadau o Ddiddordeb llwyddiannus i gyflwyno cais llawn i Gam 2.

Bydd ceisiadau Cam 2 yn agor i’r rhai a’u gwahoddir ar 5ed o Ionawr 2023 ac yn cau am 5.00pm ar 9fed o Chwefror 2023.

Rydym yn anelu at benderfynu ar geisiadau Cam 2 o fewn 10 wythnos i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn.

Bydd ein penderfyniadau cyllido yn cael eu llywio gan unrhyw ganllawiau, polisïau neu gyfyngiadau COVID-19 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n gymwys ar y pryd.

Mae'n debygol y bydd cystadleuaeth gref am yr arian sydd ar gael (£1.5miliwn) ac efallai na fyddwn yn gallu ariannu'r holl geisiadau cymwys a gawn. Felly ni ellir gwarantu y bydd gwneud cais yn golygu eich bod yn cael yr holl arian, neu beth o'r arian, sydd ei angen arnoch. Ariannir Cysylltu a Ffynnu drwy arian a ddosberthir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy arian y Loteri Genedlaethol.

Am restr llawn o dderbynwyr y dair rownd Cysylltu a Ffynnu: CLICIWCH YMA

Gweler y Canllawiau a chwestiynau'r mynegiad o ddiddordeb isod.

Cyn agor rownd 4, cynhaliwn 2 ddigwyddiad arlein lle cewch wybodaeth am y gronfa a’i blaenoriaethau a phrofiadau'r prosiectau. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau.

Bydd y digwyddiad cyntaf ar-lein am 10am ar 7 Gorffennaf, a'r ail ar 6 Medi am 2pm. Gallwch gadw lle yma.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid21.06.2022

Canllawiau Cysylltu a Ffynnu

Nodiadau cymorth gyda chyllid21.06.2022

Cysylltu a Ffynnu Cam 1:Cwestiynau Mynegiad o Ddiddordeb

Nodiadau cymorth gyda chyllid07.04.2021

Canllawiau Ariannu’r Loteri Genedlaethol

Nodiadau cymorth gyda chyllid10.02.2021

Templed Cyllideb Prosiect Cysylltu a Ffynnu

Nodiadau cymorth gyda chyllid11.07.2022

Cytundebau Partneriaeth/Cydweithio

Dechrau

Yn cau 5pm 20 Hydref 2022.

Ar gau ar hyn o bryd.