Cynhadledd ‘Methodolegau ymchwil ac ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol’

Prifysgol Aberystwyth, Cymru, DU

9 a 10 Gorffennaf 2024

Galwad am Bapurau

Mae trefnwyr y gynhadledd yn croesawu cynigion o bapurau, paneli neu bosteri yn ymwneud â methodolegau ymchwil ac ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol. Rydyn ni’n croesawu cyfraniadau o amrywiol ddisgyblaethau a gan ymarferwyr sy’n gwneud ymchwil.

Ymysg y meysydd o diddordeb allweddol ydyn ni’n anelu at eu harchwilio yn ystod y gynhadledd mae ystyried methodolegau i ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn y meysydd canlynol:

-hyrwyddo defnydd iaith, yn enwedig ymchwilio i’r ffactorau a’r gwerthoedd sy’n effeithio ar ddefnydd cymdeithasol o iaith;

-cynnwys llais plant a phobl ifanc, a grwpiau sydd ar y cyrion wrth ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol;

-ymchwilio dwyieithrwydd;

-potensial gwyddor y werin mewn ymchwil yn y maes;

-methodolegau ar gyfer gwerthuso polisïau a chynlluniau iaith sy’n rhan o bolisi cyhoeddus;

-tirweddau iaith;

– ymchwil i dechnoleg a ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol a/neu ddefnyddio technoleg fel arf ymchwil mewn ymchwil i’r ieithoedd hyn;

– ymchwil amlddisgyblaethol a’r heriau sy’n galw am ymchwil amlddisgyblaethol, er enghraifft effaith newid hinsawdd ar gymunedau ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd llai a deallusrwydd artiffisial.

Dyddiadau allweddol

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnig i’r gynhadledd yw hanner nos, nos Fercher, 21  Chwefror 2024. Croesawn gynigion ar sail ymchwil gwreiddiol, sydd heb ei gyhoeddi yn y meysydd uchod

mewn tri fformat: papurau unigol, posteri a phaneli. Dylai cynigion ymwneud ag un (neu ragor) o’r themâu a nodir uchod.

Papurau a phosteri

Cyflwynwch grynodeb (300 gair gan gynnwys cyfeiriadau) o’ch papur neu boster os gwelwch yn dda. Dylai’r crynodeb gynnwys digon o fanylion i ganiatau i adolygwyr asesu cryfderau’r cynnig.

Bydd 15 munud i gyflwyno papurau ar lafar ymhob sesiwn.

Bydd posteri yn cael eu gosod a’u dangos fel arddangosfa yn y gynhadledd. Trefnir sesiwn yn ystod y gynhadledd I’r awduron eu trafod a rhannu eu canfyddiadau gyda mynychwyr.

Paneli

Croesawn gynigion am baneli ar fformat cyflwyno papurau neu fformat trafodaeth banel. Disgwylir bod ffocws penodol i’r paneli a bydd yr amser a neilltuir yn amrywio o sesiwn 1 awr i 1.5 awr o hyd.

Cyflwynwch gynnig 600 gair sy’n cynnwys amlinelliad o’r panel a chrynodeb byr o’r papurau/ natur cyfraniad panelwyr os gwelwch yn dda. Disgwylir i’r cynnig amlinellu teitl papurau neu gyfraniadau, enwau a manylion cyswllt y rhai yn cyfrannu ac enw Cadeirydd y panel.  Cyfrifoldeb y sawl sy’n cyflwyno’r cynnig ar gyfer y panel yw sicrhau cysyniad y rhai a enwir fel cyfrannwyr cyn cyflwyno’r cynnig.

Croesawn yn arbennig gynigion am baneli sydd yn cyflwyno perspectifau o wledydd gwahanol neu am fwy nag un iaith leiafrifol neu ranbarthol.

Dylai’r crynodeb gynnwys digon o fanylion i ganiatau i adolygwyr asesu cryfderau’r cynnig.

Canllawiau Cyflwyno

  1. Defnyddiwch y ffurflen hon ar gyfer cyflwyno eich cynnig: https://forms.office.com/e/6NT7PaHukA
  2. Cofiwch gyflwyno eich cynnig erbyn dydd Mercher 21 Chwefror, 2024.
  3. Gallwch gyflwyno eich cynnig yn Gymraeg neu yn Saesneg. Cewch gyfle i ddewis os ydych am gyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg yn ystod y gynhadledd ei hun, gyda chyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu o’r Gymraeg i’r Saesneg.
  4. Bydd yr holl gynigion yn cael eu hadolygu gan y pwyllgor trefnu. Eu swyddogaeth yw sicrhau bod rhaglen y gynhadledd yn adlewyrchu’r amcanion, yn cynnwys cynnwys sy’n berthnasol i wahanol gyd-destunau ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol ac yn amlddisgyblaethol.
  5. Gan taw cynhadledd dau ddiwrnod yw hon a llefydd yn gyfyngedig, mae’n bosibl na fydd modd cynnwys yr holl gynigion a dderbynir yr rhan o’r rhaglen. Diolch o flaen llaw i bawb am eu diddordeb yn y gynhadledd.
  6. Hysbysir cyfrannwyr ynghylch y gynigion sydd wedi cael eu derbyn cyn diwedd mis Mawrth.
  7. Os cewch eich derbyn i gyfrannu i banel yn ystod y gynhadledd, bydd angen i chi gofrestru ac archebu yn y dull arferol o fewn yr amserlen.