Ewch i’r prif gynnwys

Neges gan y Rhag Is-Ganghellor: 29.06.20

29 Mehefin 2020

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr heddiw (29 Mehefin) ynghylch cynllunio ar gyfer sesiwn academaidd 2020/21.

Annwyl Fyfyriwr,

Yn amlwg, bydd y flwyddyn academaidd nesaf yn wahanol i unrhyw un arall. Fodd bynnag, byddwn yn barod i'ch croesawu chi i gyd yn ôl i'n campws mewn ffordd sy'n cydbwyso eich addysg a'ch profiad myfyriwr ehangach, â'r angen i'ch cadw chi, ein staff a'r gymuned ehangach yn ddiogel.

Roeddwn i am ddefnyddio'r neges hon i roi ymdeimlad i chi o sut y byddwn yn gwneud hynny, a'r mesurau rydym yn dechrau eu rhoi ar waith. Fel rwyf yn siŵr y byddech yn ei werthfawrogi, mae pandemig y Coronafeirws yn golygu y gall fod angen adolygu hyn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddilyn canllawiau newidiol y llywodraeth yn y DU, Cymru ac ar gyfer Addysg Uwch.

Eich diogelwch a'ch lles

  • Yn unol â gofynion y llywodraeth, bydd angen cadw at bellter cymdeithasol drwy gampws y Brifysgol i gyd (ac ar draws y ddinas)
  • Bydd gan ein hadeiladau arwyddion clir ar gyfer llwybrau cerdded unffordd, cyfleusterau golchi dwylo ychwanegol, a chaiff pwyntiau cyffwrdd uchel eu glanhau'n rheolaidd
  • Bydd angen i bawb wisgo gorchuddion wyneb ar y campws. Fodd bynnag, wrth addysgu, ni fydd ein hacademyddion yn eu gwisgo wrth addysgu gan y gall gorchuddion wyneb ei wneud yn anodd eu deall.
  • Er mwyn gwneud y mwyaf o'r gofod, a bod yn ystyriol o iechyd a lles pawb, byddwn yn parhau i leihau nifer y bobl sydd ar y campws cymaint â phosibl. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau y gallwch gael mynediad atynt, neu eich profiad myfyriwr.

Eich astudiaethau

  • Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau addysgu bach wyneb yn wyneb ac o bellter cymdeithasol lle bo’n berthnasol, gan gynnwys gwaith labordy, addysgu clinigol a sesiynau ymarferol eraill megis y rhai hynny yn ein Hysgolion Pensaernïaeth a Cherddoriaeth
  • Bydd y rhain yn elwa o fesurau diogelwch ychwanegol, ochr yn ochr â gweithgareddau ac adnoddau addysgu a dysgu ar-lein sydd o ansawdd uchel
  • Yn fuan, byddwn yn anfon arolwg at bob myfyriwr presennol ar eu profiad dysgu digidol a byddwn hefyd yn recriwtio ar gyfer ein paneli mewnwelediad myfyrwyr er mwyn cael adborth ar eich profiad myfyriwr a'ch cynlluniau ar gyfer y sesiwn academaidd newydd. Gobeithio y byddwch yn bachu ar y cyfle i gymryd rhan a lleisio eich barn.
  • Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ar sut y gallwch fanteisio i'r eithaf ar eich adnoddau dysgu ar-lein a chael cefnogaeth gyda sgiliau astudio. Bydd ein tudalen sgiliau astudio yn parhau i gael ei diweddaru ag adnoddau newydd.

Llyfrgelloedd

  • Er mwyn cefnogi eich astudiaethau, bydd ein Llyfrgelloedd yn gweithredu gwasanaeth 'clicio a chasglu', gan eich galluogi i gasglu a dychwelyd llyfrau'n ddiogel, mewn un o nifer o bwyntiau casglu ar draws y campws
  • Bydd modd cadw lle ym mannau astudio ein Llyfrgelloedd ar gyfer slotiau dwy awr, a bydd gan bob un fesurau pellter cymdeithasol a diogelwch ychwanegol ar waith. Cewch ragor o fanylion am ein Llyfrgelloedd yma.

Lleoliad ac astudio dramor

  • Rydym wedi gorfod gwneud rhai newidiadau i'n hystod o leoliadau a rhaglenni astudio dramor ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i roi trefniadau newydd ar waith gan ddilyn cyngor y llywodraeth o hyd
  • Yn anffodus, mae eisoes yn glir na fydd rhaglenni nad ydynt yn ymwneud ag iaith, lleoliadau rhyngwladol a chyfleoedd astudio dramor y tu allan i Ewrop a oedd i fod i ddechrau yn ystod semester 1 yn cael eu cynnal, ac rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i'w canslo. Bydd myfyrwyr a effeithiwyd gan hyn yn cael gohebiaethau penodol gan naill ai'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang neu'n uniongyrchol gan eu Hysgol.
  • Ein bwriad yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a rhoi gwybod i chi am benderfyniadau cyn gynted â phosibl, ac yn fuan byddwn yn diweddaru ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch lleoliadau ac astudio dramor er mwyn esbonio'r gwaith cynllunio sy'n mynd rhagddor a'r amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Eich cefnogi chi

  • Er mai ein nod fydd cyflawni cymaint o waith dysgu â phosibl, rydym yn gwybod na fydd rhai ohonoch yn gallu dychwelyd i'r campws os rydych yn hunan-warchod, neu'n byw â'r rhai hynny sy'n hunan-warchod. Os bydd hyn yn gymwys i chi cysylltwch â'r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia drwy ebostio disability@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 22518888 fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu rhoi addasiadau rhesymol ar waith er mwyn eich galluogi i barhau â'ch dysgu. Byddai'n ddefnyddiol pe byddech yn gallu gwneud hyn cyn gynted â phosibl, fel bod amser i weithio gyda chi i nodi datrysiadau priodol ar gyfer eich amgylchiadau unigol.
  • Rydym yn gwybod efallai na fydd rhai myfyrwyr eraill yn gallu dychwelyd i'r campws oherwydd cyfyngiadau teithio neu, ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, efallai y bydd angen i rai hunan-warchod os oes gan aelod o'u cartref symptomau'r Coronafeirws. Rydym yn gweithio i ymestyn ein proses addasu resymol er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr sydd mewn un o'r sefyllfaoedd hyn fynediad at gynnwys digidol, lle y bo'n briodol ac ar gael, a chaiff rhagor o wybodaeth ei rhyddhau maes o law.
  • Mae Cronfa Galedi Ariannol y Brifysgol yn cael ei hadolygu fel y gall helpu myfyrwyr na fyddai fel arall yn gallu cael mynediad at adnoddau dysgu ar-lein
  • Bydd ein timau Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn parhau i ddarparu cefnogaeth i bob un o'n myfyrwyr ac i fyfyrwyr sy'n byw yn llety'r brifysgol.

Diolch am eich dealltwriaeth barhaus wrth i ni weithio drwy'r cryn dipyn o waith a gyflawnir er mwyn ailagor ein campws mewn modd diogel ac effeithiol.  Wrth i fwy o benderfyniadau gael eu gwneud, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, felly parhewch i edrych ar eich ebost a'r rhyngrwyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr