Caru Cymru
A A A

Ydych chi’n awyddus i lanhau eich ardal leol ond heb yr offer cywir?

Mae dros 200 o Hybiau Codi Sbwriel ar agor ledled Cymru.  Gallant gynnig yr holl offer sydd ei angen arnoch i gynnal digwyddiad glanhau diogel i garu a gofalu am eich ardal leol.

Mae’r pecyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel, a chylchynnau – sy’n hanfodol i gadw eich bagiau ar agor yn y gwynt.

Ewch i un o Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru a gallwch fenthyg yr offer AM DDIM!

Dod o hyd i’ch Hyb Codi Sbwriel lleol

Mae oriau agor a manylion cyswllt hybiau ar gael trwy glicio ar y map isod. Noder, yn ystod y cyfnod anarferol hwn, gall oriau agor hybiau newid.

Os oes gennych ddiddordeb yn glanhau eich ardal leol, efallai y byddai gennych ddiddordeb yn dod yn Arwr Sbwriel.

Ymunwch â’n byddin o Arwyr Sbwriel

Bethyg beth sydd angen am ddim

Mae ein ‘benthycwyr’ i gyd yn cael canllawiau iechyd a diogelwch ac mae’n rhaid iddynt lenwi asesiad risg cyflym a llofnodi cytundeb llogi offer codi sbwriel.

Mae’n rhaid i chi hefyd ddychwelyd yr eitemau sydd wedi cael eu llogi erbyn y dyddiad y cytunwyd arno yn eu cyflwr gwreiddiol. Bydd angen talu am unrhyw niwed neu golledion ac mae disgwyl i’r benthycwyr hysbysu’r hyb ynghylch unrhyw ladrad, colled neu niwed cyn gynted â phosibl i leihau’r perygl o amharu ar fenthycwyr eraill.

Dewch yn Hyb Codi Sbwriel

Allai eich sefydliad chi ymuno â ein rhwydwaith o Hybiau Codi Sbwriel?

Gwnewch yn siwr bod gan eich cymuned yr holl offer sydd ei angen i gynnal digwyddiad glanhau diogel mewn pedwar cam hawdd.

  1. Cysylltwch â chofrestrwch gyda’ch swyddog prosiect lleol.
  2. Cwblhewch ein hyfforddiant hyb cyflym.
  3. Derbyniwch eich pecyn canllaw a’ch cyfarpar codi sbwriel.
  4. Codwch eich llais am eich hwb a helpu eich cymuned i gadw eu hardal yn daclus.
Cysylltwch â ni