Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ysgrifennu at bawb sydd ar y Rhestr Cleifion a Warchodir i roi gwybod iddynt y bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

Diolch i’n cyfraddau brechu uchel iawn, ac yn dilyn y gostyngiad yn y gyfradd drosglwyddo yng Nghymru, rydym nawr yn paratoi i symud ymlaen o’r ymateb argyfwng i’r pandemig a byw yn ddiogel gyda’r coronafeirws yn unol â’n cynllun hirdymor newydd.

Crëwyd y Rhestr Cleifion a Warchodir ar ddechrau’r pandemig ac roedd yn cynnwys pobl yr oedd pedwar prif swyddog meddygol y DU yn credu a oedd yn wynebu’r perygl mwyaf yn sgil coronafeirws.

Mae bron i ddwy flynedd wedi pasio ers llunio’r rhestr ac rydym wedi dysgu llawer am y feirws ers hynny. Mae’r brechlyn wedi newid hynt y pandemig ac wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng coronafeirws a salwch difrifol. Mae gennym nawr fynediad at driniaethau newydd sydd hefyd yn gallu atal salwch difrifol, yn enwedig ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yn glinigol.

Yn ystod cyfnod y pandemig, mae amgylchiadau personol rhai pobl ar y rhestr cleifion a warchodir wedi newid. Cafodd rhai pobl eu hychwanegu at y rhestr oherwydd eu bod yn cael triniaeth ar gyfer canser, er enghraifft; ond erbyn heddiw mae’r driniaeth wedi’i chwblhau’n llwyddiannus. Ychwanegwyd eraill oherwydd eu bod ar gwrs o feddyginiaeth benodol neu oherwydd eu bod yn dioddef o glefyd y galon ac yn feichiog.

Mae gan y GIG wybodaeth am bobl a ystyrir yn agored i niwed yn glinigol ac sy’n gymwys i gael y triniaethau COVID-19 newydd ac i gael mynediad at raglenni pigiadau atgyfnerthu. Bydd llawer o’r bobl hyn wedi bod ar y rhestr cleifion a warchodir, ond nid pawb.

Felly rwyf wedi derbyn cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru mai nawr yw’r adeg i ddod â’r rhaglen warchod i ben.

Cafodd y cyngor gwarchod ei rewi ar 1 Ebrill 2021 ac ers hynny, mae pawb sydd ar y Rhestr Cleifion a Warchodir wedi cael eu cynghori i ddilyn yr un cyngor â’r boblogaeth gyffredinol. Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi awgrymu ers tro nad oedd ganddo unrhyw fwriad o ailgyflwyno’r cyngor gwarchod eto o ganlyniad i’r niwed cysylltiedig a’n dealltwriaeth well o sut i ddiogelu ein hunain. Y brechlyn yw’r prif amddiffyniad.  

Rydym yn gweithio gydag archfarchnadoedd, cwmnïau dŵr ac awdurdodau lleol i roi’r gorau i rannu data am y Rhestr Cleifion a Warchodir, a sicrhau y bydd y rhestr yn cael ei dileu’n ddiogel. Bwriedir rhoi’r gorau i rannu’r data erbyn 31 Mawrth 2022.