Neidio i'r prif gynnwy

Gallech gael cyllid gan eich awdurdod lleol i ddarparu gofal plant i blant 3 a 4 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn helpu tuag at gost gofal plant ac addysg gynnar i blant 3 neu 4 oed.

Mae’r Cynnig Gofal Plant ar gael i rieni sydd:

  • gweithio
  • wedi cofrestru ar gwrs addysg cymwys
  • ymgymryd â chwrs hyfforddi cymwys

Gall rhieni ddefnyddio’r Cynnig Gofal Plant am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, gan gynnwys:

  • 39 wythnos o amser tymor
  • 30 awr am 9 wythnos o wyliau ysgol

Cymhwystra darparwyr

Mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru fel darparwr gofal plant gyda rheoleiddiwr. Yng Nghymru, y rheoleiddiwr a'r arolygiaeth ar gyfer gofal plant yw Arolygiaeth Gofal Cymru, ac yn Lloegr Ofsted ydyw.

Mae darparwyr cymwys yn cynnwys:

  • meithrinfeydd
  • gwarchodwyr plant
  • cylchoedd chwarae
  • crèche
  • gofal plant y tu allan i'r ysgol megis clybiau brecwast, clybiau prynhawn a chlybiau gwyliau

Nid oes angen i chi fod yn ddarparwr Addysg Gynnar (a elwir hefyd yn ‘Ddysgu Sylfaen’) i gael mynediad at gyllid.

Gall gwarchodwyr plant cofrestredig gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant i blentyn sy’n berthynas. Rhaid iddynt beidio â darparu gofal yng nghartref y plentyn na bod â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Nid yw nanis yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant gan nad ydynt yn cael eu rheoleiddio i’r un graddau â darparwyr gofal plant cofrestredig.

Cofrestru darparwyr

Bydd angen i chi gofrestru fel cyflenwr gofal plant ar gyfer y Cynnig Gofal Plant gyda’r awdurdod gweithredu perthnasol. Fel rhan o’r broses gofrestru, byddwch yn cael copi o delerau ac amodau’r Cynnig Gofal Plant a bydd gofyn i chi gytuno â nhw.

Faint o arian a gewch

Gofal plant

Cewch £5 yr awr am bob plentyn yn eich gofal sydd â hawl i gael y Cynnig Gofal Plant. Gallwch hawlio ar gyfer sesiynau hanner awr ar gyfradd o £2.50.

Nid yw'n ofynnol i chi godi cyfradd fesul awr y Cynnig ar gyfer darpariaeth nad yw'n cael ei darparu o dan y Cynnig. Er enghraifft, os ydych yn darparu oriau ychwanegol.

Cyfraddau atodol pan fydd eich cyfradd arferol yn uwch

Ni allwch godi tâl am gyfraddau atodol fesul awr os ydych fel arfer yn codi mwy na £5 yr awr. Ni fydd darparwyr sy'n torri telerau y Cynnig Gofal Plant ac yn codi ffioedd ychwanegol fesul awr yn derbyn cyllid i ddarparu'r Cynnig o hynny ymlaen.

Pan nad yw plant yn mynychu sesiynau a drefnwyd

Os na fydd plentyn yn mynychu sesiwn a drefnwyd, byddwch dal i gael eich talu am yr oriau a drefnwyd. Os bydd plentyn yn parhau i beidio â mynychu dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol.

Codi tâl am fwyd

Gallwch godi tâl am fwyd rydych yn ei ddarparu ond dim ond os ydych fel arfer yn codi tâl am fwyd ar wahân. Os ydych yn codi tâl ychwanegol am fwyd wrth ddarparu’r Cynnig, dylech ei gwneud yn glir i'r rhieni sy'n defnyddio'r Cynnig am beth yn union mae’r tâl hwnnw.

Os ydych fel arfer yn caniatáu i rieni ddarparu pecynnau bwyd ar gyfer eu plant, rhaid i rieni sy'n defnyddio’r Cynnig hefyd cael caniatâd i wneud hynny.

Mewn sesiwn dydd llawn (tua 10 awr), ni ddylid codi mwy na £9.00 y dydd ar rieni am fwyd. Byddai’r tâl hwn yn cynnwys:

  • 3 phryd am £2.50 y pryd
  • 2 fyrbryd am dâl o 75c y byrbryd

Ar gyfer bwyd a ddarperir yn ystod sesiwn hanner diwrnod (tua 5.5 awr), ni ddylid codi mwy na £5.75 ar rieni. Mae hyn yn caniatáu am:

  • 2 bryd am £2.50 y pryd,
  • fyrbryd am dâl o 75c y byrbryd

Codi tâl am gasglu a gollwng

Gallwch godi tâl ar rieni am wasanaethau casglu a gollwng.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn pennu cyfraddau ar gyfer trafnidiaeth gan y bydd costau trafnidiaeth yn amrywio yn ôl:

  • y lleoliad a’r math o ddarparwr gofal plant
  • y math o drafnidiaeth sy'n cael ei darparu 
  • y costau sy'n gysylltiedig â staffio a chynnal y cerbydau

Dylai unrhyw ffioedd ar gyfer trafnidiaeth fod yn rhesymol a ni ddylid codi mwy ar y rheini sy'n defnyddio'r Cynnig am drafnidiaeth na'r rheini nad ydynt yn defnyddio'r Cynnig.

Codi tâl am weithgareddau y tu allan i'r lleoliad

Gallwch godi tâl ar rieni am weithgareddau y tu allan i'r lleoliad sydd â chost yn gysylltiedig â hwy. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn pennu cyfraddau ar gyfer y gweithgareddau hyn gan y bydd costau yn amrywio yn ôl natur y gweithgareddau.

Dylai rhieni sy’n defnyddio’r Cynnig allu dewis peidio â chaniatáu i’w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i’r lleoliad ac ni ddylai hynny fod yn amod ar ddefnyddio’r lleoliad gofal plant.

Dylai gweithgareddau y tu allan i’r lleoliad fod yn eithriadol ac yn achlysurol yn hytrach na bod yn weithgareddau rheolaidd bob wythnos.

Codi tâl am weithgareddau yn y lleoliad

Ni ddylech godi tâl ychwanegol ar rieni sy’n defnyddio’r Cynnig am weithgareddau arferol yn y lleoliad.

Ffioedd eraill

Ni ellir defnyddio’r Cynnig Gofal Plant i dalu am gostau gofal plant anuniongyrchol megis ffi gwyliau neu ffi weinyddol neu ffi gadw ymlaen llaw. Rhaid i’r costau hyn cael eu talu gan y rhiant.

Ni ddylech godi unrhyw ffioedd ychwanegol ar rieni sy'n defnyddio'r Cynnig am unrhyw elfennau sydd uwchlaw y costau gofal plant eu hunain, os nad ydych hefyd yn codi ffioedd am yr elfennau hynny ar rieni nad ydynt yn defnyddio'r Cynnig.

Er enghraifft, dylai unrhyw wasanaethau ychwanegol sy’n cael eu cynnwys fel arfer o fewn ffioedd rheolaidd ar gyfer rhieni nad ydynt yn defnyddio'r Cynnig, hefyd cael eu cynnwys fel arfer ar gyfer rhieni sy’n defnyddio’r Cynnig.

Sut i gael eich talu

Cysylltu

I gael rhagor o gymorth a chefnogaeth, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.