Gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Chwarae

Mae’r Gwasanaeth Chwarae ar hyd o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr oed 16+ i gefnogi ein cynlluniau chwarae yn ystod yr haf. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Manteision Gwirfoddoli

  • Mae gwirfoddoli’n cael effaith ystyrlon a chadarnhaol ar y gymuned
  • Mae gwirfoddoli gallu datblygu diddordebau a hobïau newydd
  • Mae gwirfoddoli’n ffordd fendigedig o gael profiadau bywyd
  • Mae gwirfoddoli’n tynnu amrywiaeth o bobl o bob cefndir at ei gilydd
  • Mae gwirfoddoli’n golygu helpu pobl eraill yn y pen draw a chael effaith ar les pobl
  • Mae rhoi’ch amser i wirfoddoli yn eich helpu chi i wneud ffrindiau newydd, ehangu’ch rhwydwaith a rhoi hwb i’ch sgiliau cymdeithasol
  • Mae gwirfoddoli’n gallu rhoi hwb i’ch hunan hyder, eich hunan-barch a’ch boddhad â bywyd
  • Mae gwirfoddoli’n rhoi’r cyfle i chi ymarfer sgiliau pwysig sy’n cael eu defnyddio yn y gweithle, fel gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio prosiectau, rheoli tasgau a sgiliau trefniadol.
  • Mae gwirfoddoli yn wych ar eich CV neu ar gais coleg neu brifysgol.

Gall bob gwirfoddolwr hawlio treuliau o £15 y dydd tuag at fwyd a theithio.

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael cefnogaeth i gwblhau hyfforddiant.

Bydd pob gwirfoddolwr yn gymwys i gael geirda ynglŷn â’u profiad mewn cynllun chwarae i’w cefnogi mewn gwaith ac astudiaethau yn y dyfodol.

Gwneud cais i wirfoddoli gyda’r gwasanaeth chwarae

Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Chwarae

Ffôn: 01495 742951
E-bost: torfaenplay@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig