Man didoli bagiau - cwestiynau cyffredin

Beth yw’r Polisi?

Mae’r Polisi’n ceisio annog trigolion i ddidoli eu gwastraff, yn y cartref yn ddelfrydol, er mwyn osgoi taflu gwastraff y mae modd ei ailgylchu yn y Ganolfan Ailgylchu.

Pam fod y Polisi wedi ei gyflwyno?

  • Er mwyn ceisio annog mwy o bobl i ailgylchu mwy, naill ai yn y cartref neu yn y Ganolfan Ailgylchu.
  • Rhaid i CBST gwrdd â thargedau llym a osodwyd gan Lywodraeth Cymru:
    • Rhaid ailgylchu o leiaf 64% erbyn Ebrill 2020
    • Rhaid ailgylchu o leiaf 70% erbyn Ebrill 2025
  • Am bob 1% o’r targed sy’n cael ei fethu byddwn yn cael dirwy o tua £100,000.

Pryd mae’r Polisi’n dechrau?

Mae’r Polisi’n dechrau ar 4ydd Mawrth 2019.

Beth sy’n rhai i mi wneud?

Pan fyddwch yn ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu bydd rhaid i chi:

  1. Ddidoli gwastraff mae modd ei ailgylchu oddi wrth y pethau nad oes modd eu hailgylchu yn eich cartref felly, pan fyddwch yn ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu, gallwch roi’r deunydd ailgylchu yn y biniau cywir.  Bydd hyn yn gwneud eich ymweliad yn fwy cyflym a hawdd.
  2. Agor bagiau yr ydych yn dod â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu i ddangos i’n tîm nad ydyn nhw’n cynnwys deunydd i’w ailgylchu. Os ydyn nhw, bydd rhaid i chi eu didoli ar y safle neu ddychwelyd adref i wneud hyn.

Dim ond eitemau nad oes modd eu hailgylchu caiff eu rhoi yn sgip Gwastraff y Cartref.

Oni fydd y Polisi’n achosi cynnydd mewn tipio anghyfreithlon?

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd. Bydd unrhyw unigolion nad sy’n trin eu gwastraff yn gyfrifol yn destun ymchwiliad gan dîm gorfodaeth y Cyngor.

Dyw cynghorau eraill sydd wedi cyflwyno Man Didoli Bagiau yn eu Canolfannau Ailgylchu ddim wedi gweld cynnydd mewn sbwriel sy’n cael ei dipio.

Beth os oes gen i eitemau sensitif yn y bagiau?

Bydd gofyn i chi o hyd i dynnu unrhyw eitemau y mae modd eu hailgylchu o’r bagiau.  Bydd ein tîm yn sensitif gyda’ch anghenion ond efallai byddan nhw’n gofyn i chi fynd â’ch bagiau adref i’w rhoi yn eich bin tenau.

A fydd y staff ar y safle yn didoli fy magiau ar fy rhan?

Na. Eich gwastraff chi sydd yn y bagiau, a’ch cyfrifoldeb chi yw eu didoli. Gallwn ddarparu menig i’ch helpu.

Sut mae cael cynwysyddion ailgylchu ychwanegol er mwyn ailgylchu gartref?

Mae gennym ni stoc o gynwysyddion yn Swyddfeydd y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig, Tŷ Blaen, Llyfrgell Cwmbrân a’r Ganolfan Treftadaeth, Blaenafon.  Mae yna stoc hefyd yn y Ganolfan Ailgylchu – gofynnwch wrth y glwyd. Fel arall, medrwch ofyn am gynwysyddion yma neu dros y ffôn (01495 762200) a byddwn yn eu danfon atoch.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig