Copy
View this email in your browser
Food Waste Action Challenge
Wasting food feeds climate change - and we want to do something about it!

All this week at Swansea University, we'll be taking part in the Food Waste Action Challenge! There are new challenges for you to get involved with every day this week (1st-7th March) to reduce your food waste as much as possible! Any food you don’t throw out saves you money and helps to save the planet! 

The Challenge is part of WRAP UK's first ever Food Waste Action Week.

From portions and planning, to using every last peel, there's no time like the present to chill the fridge out.

There are four new activities on SWell with all the resources and ideas you need to get started. Whilst the Food Waste Action Challenge finishes this week, you'll be able to take part in our SWell activities for the whole of March!

 
Find out more about what the Food Waste Action Challenge means to Swansea University
Food waste quiz
Do you know how much food waste costs the UK each year? Which vegetable was the first to be grown in space? What the ideal temperature is for your fridge to best look after your food? Take part in our quick-fire quiz to test your knowledge of food waste and earn up to 225 Green Points!
Let's get quizzing.
Time to chill 
Your fridge is one of your best tools in the fight against unnecessary food waste, so make sure you’re making the most of it! Join the Food Waste Action Challenge by watching our short video all about which foods you should and shouldn’t refrigerate to get the best out of them. Even better - earn 100 Green Points for boosting your fridge knowledge!
Watch our food waste video.
Make a pledge
Throwing away food isn't just a waste of the resources that went into producing it, but a waste of money for you too! The average UK household throws away around £70 worth of perfectly edible food every single month - we want to help you tackle that. Take a look at some of tips and ideas on SWell, commit to your own pledge to reduce food waste and we'll give you 200 Green Points.
Pledge to cut your food waste
.
Head to SWell to discover another new activity for you to take on the Food Waste Action Challenge!
Her Gweithredu ar Wastraff Bwyd 
Mae gwastraff bwyd yn bwydo newid yn yr hinsawdd - ac rydym am wneud rhywbeth yn ei gylch!

Drwy gydol yr wythnos hon ym Mhrifysgol Abertawe, byddwn yn cymryd rhan yn yr Her Gweithredu ar Wastraff Bwyd! Mae heriau newydd i chi gymryd rhan ynddynt bob dydd yr wythnos hon (1-7 Mawrth) i leihau eich gwastraff bwyd gymaint â phosibl! Mae unrhyw fwyd nad ydych chi’n ei daflu yn arbed arian i chi ac yn helpu i achub y blaned! 

Mae'r Her yn rhan o Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyntaf erioed WRAP UK.

O ddognau a chynllunio, i ddefnyddio pob darn olaf, does dim amser fel y presennol i lanhau’r oergell.

Mae pedwar gweithgaredd newydd ar SWell gyda'r holl adnoddau a syniadau sydd eu hangen arnoch i ddechrau arni. Er y bydd yr Her Gweithredu ar Wastraff Bwyd yn gorffen yr wythnos hon, byddwch yn gallu cymryd rhan yn ein gweithgareddau SWell drwy gydol mis Mawrth!
Dysgwch fwy am yr hyn mae'r Her Gweithredu ar Wastraff Bwyd yn ei olygu i Brifysgol Abertawe
Cwis gwastraff bwyd
Ydych chi'n gwybod faint mae gwastraff bwyd yn ei gostio i'r DU bob blwyddyn? Pa lysiau oedd y cyntaf i gael eu tyfu yn y gofod? Beth yw'r tymheredd delfrydol i'ch oergell ofalu am eich bwyd? Cymerwch ran yn ein cwis cyflym i brofi eich gwybodaeth am wastraff bwyd ac ennill hyd at 225 o Bwyntiau Gwyrdd!
Dechrau ar y cwis.
Amser oeri
Eich oergell yw un o'ch offer gorau yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd diangen, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y gorau ohoni! Ymunwch â'r Her Gweithredu ar Wastraff Bwyd drwy wylio ein fideo byr am ba fwydydd y dylech ac na ddylech eu hoeri i gael y gorau ohonynt. Hyd yn oed yn well - enillwch 100 o Bwyntiau Gwyrdd am roi hwb i wybodaeth eich oergell!
Gwyliwch ein fideo gwastraff bwyd.
Gwneud adduned
Nid gwastraff o'r adnoddau a aeth i'w gynhyrchu yn unig yw taflu bwyd i ffwrdd, ond gwastraff arian i chi hefyd! Ar gyfartaledd mae pob aelwyd yn y DU yn taflu gwerth tua £70 o fwyd y gellir ei fwyta bob mis - rydym am eich helpu i fynd i'r afael â hynny. Edrychwch ar rai awgrymiadau a syniadau ar SWell, ymrwymwch i'ch addewid eich hun i leihau gwastraff bwyd a byddwn yn rhoi 200 o Bwyntiau Gwyrdd i chi.
Adduned i leihau eich gwastraff bwyd.
Ewch i SWell i ddarganfod gweithgaredd newydd arall i chi allu ymgymryd â'r Her Gweithredu ar Wastraff Bwyd!
Facebook
Twitter
Website
Email
Copyright © 2021 Jump, All rights reserved.


unsubscribe from this list    update subscription preferences