Copy
View this email in your browser
Switch Off for Earth Hour
 
Earth Hour is a worldwide movement funded by the WWF, and this year will take place on 26th March at 8.30pm. This annual event encourages individuals, communities and businesses to switch off their lights for one hour in support of nature and the planet. 

This is a simple opportunity for anyone to get involved and raise awareness for nature and climate change. If you're unable to switch off, why not spend this hour reading an informative article or listening to the Earth Hour Spotify playlist? You may not think it'll make much difference but if millions of people across the world turn their lights out for an hour that's a lot of energy!
Support the Community Fridge

Did you know over 2 million tonnes of the food that goes to waste each year is still edible? That’s enough for 1.3 billion meals! The Community Fridge is a great way to reduce this waste, whilst also helping people to access fresh food and tackle food poverty. Businesses and retailers in Swansea donate surplus food to the Community Fridge, and they distribute it to members of the community. 

On 24th March from 11am-1pm the Community Fridge will be coming to Fulton House on Singleton Campus. Come along to help reduce food waste, and any money you can donate will go back into the project to help more people around Swansea access fresh produce.
Your kindness stories

A big congratulations goes to all of you who took part in the Random Acts of Kindness campaign last month. We set a target for you to record 2,000 acts of kindness in February and you smashed this out of the park, finishing the month with a total of 2,274 kind acts! We loved some of the stories you shared, here are a few of them:

    On learning about an international student with family struggling to furnish their rented house, we collected and delivered off a fridge-freezer, stationery bag for children, clothes and coats, bed linen, carpet rug, curtains. The family wrote a very moving 'thank you' message with blessings we will treasure for ever.

    I took my nephew who supports the Swans to the stadium so he could have his picture taken outside and a guy working there saw him and had a chat and then let us in a corner gate to look inside the stadium. He had a photo taken by the pitch and it made his day.

I've been struggling with my mental health this week and my colleagues have checked in with me every day.
Global Recycling Day (18th March)

As a University community of more than 24,000 students and staff combined, our recycling actions on campus and at home can make a really big impact!  The University provides facilities for waste items to be segregated on campus to ensure that items are recycled more efficiently. Because of this, we diverted 64% of all waste generated on campus during the 2019-20 academic year away from landfill.

What you can do, not only on Global Recycling Day, but every day – read our top tips for:
Avoiding waste and plastic waste
Reducing food waste
How to reduce, reuse and recycle on campus

Please see our waste webpages for more information on what can be recycled at the University and contact estates-waste@swansea.ac.uk if you have any questions.
Helping you to reuse

If you're staff at the University, we've introduced the online reuse platform Warp It to help you advertise, find, and claim surplus furniture that is in good working order and to prevent it being disposed of unnecessarily. All staff can sign up and list unwanted, surplus furniture for others to search, claim, and reuse within the University. 150 staff have signed up in the last month, so the community is growing quickly! Get involved with Warp It here.

Warp it isn't currently available for students at the University however there are some great alternatives out there like Dopplle, the app which allows you to swap clothes with other students, helping to keep your wardrobe fresh while reducing your environmental impact.
Your February winners

A huge well done to our top 10 students and staff who all won a £10 voucher last month for earning the most monthly Green Points! Get involved in the activities below and you could be a March winner.
Actions to take now:
Switch off non-essential electrical equipment over night and earn up to 120 Green Points each week
Earn 100 Green Points for encouraging your colleagues and fellow students to join SWell too!
Diffodd ein Goleuadau dros yr Awr Ddaear
 
Mae'r Awr Ddaear yn fudiad byd-eang wedi’i ariannu gan y WWF, ac eleni, bydd yn cael ei chynnal ar 26 Mawrth am 8.30pm. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn annog unigolion, cymunedau a busnesau i ddiffodd eu goleuadau am un awr, er mwyn cefnogi natur a’r blaned. 

Dyma gyfle syml i unrhyw un gymryd rhan a chodi ymwybyddiaeth o fyd natur a’r newid yn yr hinsawdd. Os nad ydych yn medru diffodd eich goleuadau, beth am dreulio awr yn darllen erthygl addysgiadol neu wrando ar restr chwarae’r Awr Ddaear ar Spotify? Efallai nad ydych yn credu y byddai’n gwneud llawer o wahaniaeth, ond os bydd miloedd o bobl ledled y wlad yn diffodd eu goleuadau am un awr, byddwn yn arbed llawer o ynni!
Cefnogi’r Oergell Gymunedol

A wyddoch chi fod dros 2 filiwn o dunelli o'r bwyd sy'n mynd i wastraff bob blwyddyn yn dal i fod yn iawn i'w fwyta? Mae hynny’n ddigon am 1.3 biliwn pryd! Mae’r Oergell Gymunedol yn ffordd wych o leihau gwastraff, wrth hefyd helpu pobl gael bwyd ffres yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi bwyd. Mae busnesau a manwerthwyr yn Abertawe yn rhoi bwyd dros ben i’r Oergell Gymunedol, ac maent wedyn yn danfon y bwyd i unigolion yn y gymuned. 

Ar 24 Mawrth, rhwng 11am-1pm, bydd yr Oergell Gymunedol yn dod i Dŷ Fulton ar Gampws Singleton. Dewch draw i helpu i leihau gwastraff bwyd, a bydd unrhyw arian rydych chi’n medru ei roi yn cael ei fwydo’n ôl i’r prosiect er mwyn helpu mwy o bobl ledled Abertawe i gael mynediad at gynnyrch ffres.
Eich straeon caredigrwydd

Llongyfarchiadau gwresog i bawb a gymerodd ran yn yr ymgyrch Gweithredoedd Caredig Digymell fis diwethaf. Gwnaethom osod targed i chi gofnodi 2,000 o weithredoedd caredig ym mis Chwefror, ac rydych wedi rhagori ar hyn, gan orffen y mis gyda chyfanswm o 2,274 o weithredoedd caredig! Dyma rai o’n hoff straeon y gwnaethoch chi eu rhannu gyda ni:

    Ar ôl dysgu bod myfyriwr rhyngwladol sydd â theulu yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddodrefn ar gyfer tŷ rhent, gwnaethom gasglu a danfon rhewgell-oergell, bag offer ysgrifennu ar gyfer plant, dillad a chotiau, dillad gwely, ryg carped a llenni. Ysgrifennodd y teulu neges 'diolch' hynod deimladwy gyda bendithion y byddwn yn eu trysori am byth.

    Es i â’m nai, sy'n cefnogi'r Elyrch, i dynnu ei lun y tu allan i’r stadiwm, a gwelodd un o’r gweithiwr fy nai a chawsom sgwrs ag ef, ac yna fe adawodd ef ni i mewn drwy giât gornel i gael cip o du mewn i'r stadiwm. Cafodd dynnu ei lun wrth y cae, ac roedd ar ben ei ddigon.

Rwyf wedi cael trafferth gyda’m hiechyd meddwl yr wythnos hon, ac mae fy nghydweithwyr wedi gwirio a ydw i’n iawn bob dydd.
Diwrnod Ailgylchu Byd-eang (18 Mawrth)

Fel cymuned Brifysgol o fwy na 24,000 o fyfyrwyr a staff, gall ein gweithredoedd ailgylchu ar y campws a gartref gael effaith sylweddol!  Mae’r Brifysgol yn cynnig cyfleusterau i wahanu gwastraff ar y campws er mwyn sicrhau bod eitemau’n cael eu hailgylchu mewn ffordd fwy effeithlon. Oherwydd hyn, gwnaethom ddargyfeirio 64% o holl wastraff y campws yn ystod blwyddyn academaidd 2019-20 oddi wrth safleoedd tirlenwi.

Gallwch chithau wneud hynny hefyd, nid yn unig ar Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang, ond bob dydd - darllenwch ein hawgrymiadau ardderchog i:
Osgoi gwastraff a gwastraff plastig
Lleihau gwastraff bwyd
Sut i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar y campws

Gweler ein tudalennau gwe gwastraff am ragor o wybodaeth ynghylch beth allwch chi ei ailgylchu yn y Brifysgol a chysylltwch ag estates-waste@swansea.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Helpu chi i ailddefnyddio

Os ydych chi'n un o staff y Brifysgol, rydym wedi cyflwyno'r llwyfan ailddefnyddio ar-lein, Warp It, er mwyn eich helpu i hysbysebu, canfod a hawlio dodrefn dros ben sydd mewn cyflwr da ac i'w rwystro rhag cael ei waredu'n ddiangen. Gall yr holl staff gofrestru a rhestru dodrefn diangen, dros ben i eraill chwilio, hawlio ac ailddefnyddio o fewn y Brifysgol. Mae 150 aelod o staff wedi cofrestru fis diwethaf, felly mae’r gymuned yn tyfu’n gyflym! Cofrestrwch gyda Warp It yma.

Nid yw Warp It ar gael i fyfyrwyr y Brifysgol ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae rhai opsiynau gwych eraill ar gael fel Dopplle, yr ap sy’n eich galluogi i gyfnewid dillad gyda myfyrwyr eraill, gan helpu i ddiweddaru eich dillad wrth leihau eich effaith amgylcheddol.
Eich enillwyr mis Chwefror

Llongyfarchiadau gwresog i’n 10 myfyriwr a staff a enillodd daleb £10 ar ôl dod i’r brig gyda’r mwyaf o Bwyntiau Gwyrdd misol fis diwethaf! Cymerwch ran yn y gweithgareddau isod, a gallwch chi fod yn un o enillwyr mis Mawrth.
Camau gweithredu i'w cymryd nawr:
Diffoddwch offer trydanol nad ydynt yn hanfodol dros nos, a gallwch chi ennill hyd at 120 o Bwyntiau Gwyrdd bob wythnos
Enillwch 100 o Bwyntiau Gwyrdd am annog eich cydweithwyr a chyd-fyfyrwyr i ymuno â SWell hefyd!
Facebook
Twitter
Website
Email
Copyright © 2022 Jump, All rights reserved.


unsubscribe from this list    update subscription preferences