Copy
View this email in your browser
You've avoided 59,600 kg CO2!
The last 6 months have flown by! Since we relaunched SWell to staff and students in October, you've managed to save 59,600 kg CO2 - the equivalent to 60 return flights from London to New York. Here are some key stats from your positive actions:
8,908 meat free days
6,566 disposable cups and bottles saved
32,689,765 steps recorded
26,855 miles travelled sustainably
Join The Big Safe Cycle Roadshow

As the days get longer - and hopefully warmer - now is a great time to switch up your commute to university and opt for a sustainable transport method, like cycling! We're back in May with another one of our Big Safe Cycle Roadshows to boost your confidence on the bike.

We'll be at the Singleton Campus on the 4th May and Bay Campus on the 5th May (10am-4pm) with Dr Bike sessions, discount info on cycle equipment, cycle to work advice, cycle training info, adapted bike info and trials, free lock and lights for students and staff (with a bike), safety advice and security bike marking and Swansea Santander bike scheme free membership info. We look forward to seeing you there!
Show your support for Earth Day

Later this month we'll be joining the celebrations for Earth Day (22nd). This year's theme is 'invest in our planet' and explores how we can build a prosperous and equitable future that cares for people and our environment. 

Why not take the opportunity to team up with your colleagues, course friends, house mates, society to organise something together for Earth Day? For example, you could; buy plants for your flat or office, motivate your team to avoid single use bottled water or paper cups, share easy meatless recipes and try going meat free as a flat or organise a litter pick. Whatever you decide to do, let us know here and we'll award you 300 Green Points!
Your submissions

We love seeing your submissions each month, and it's great to see that so many of you have been getting involved in our Just Give! activity, here's some of your latest submissions:

   "Donated Tuesday and Wednesday to running a workshop series for refugees and asylum seekers to help them understand employment in the UK" - Jill B

    "Organising free English classes for refugees" - Sadie F R

    "Donated to Swansea Community Fridge to eradicate food poverty and help the cause!" - Deshna J
Your March winners

A huge well done to our top 10 students and staff who all won a £10 voucher last month for earning the most monthly Green Points! Get involved in the activities below and you could be a April winner.
Actions to take now:
Commute to and from campus in a more active or sustainable way and earn up to 125 Green Points.
Earn up to 100 Green Points each week for taking mindfulness breaks at home.
Rydych wedi osgoi 59,600 kg CO2!
 
Mae’r 6 mis diwethaf wedi hedfan heibio! Ers inni ail lansio SWell i staff a myfyrwyr ym mis Hydref, rydych wedi llwyddo i arbed 59,600 kg CO2 - cyfwerth â 60 taith awyren o Lundain i Efrog Newydd ac yn ôl. Dyma rai ystadegau allweddol o ganlyniad i’ch gweithredoedd cadarnhaol:

8,908 o ddyddiau di-gig
6,566 o gwpanau a photeli tafladwy wedi eu harbed
32,689,765 o gamau wedi eu cofnodi
26,855 o filltiroedd wedi eu teithio’n gynaliadwy

Ymunwch â’r Sioe Fawr Beicio’n Ddiogel

Wrth i’r dyddiau ymestyn - a chynhesu, gobeithio - mae’n amser da i newid eich modd o gyrraedd y brifysgol gan ddewis dull cynaliadwy o deithio, megis beicio! Rydym yn ôl ym mis Mai gyda Sioe Fawr Beicio’n Ddiogel arall i roi hwb i’ch hyder ar y beic.

Ar Gampws Singleton ar 4 Mai a Champws y Bae ar 5 Mai (10am-4pm) bydd sesiynau Dr Beic, gwybodaeth am ostyngiadau ar offer beicio, cyngor ar feicio i’r gwaith, gwybodaeth am hyfforddiant beicio, gwybodaeth am feiciau wedi eu haddasu a threialon, cloeon a golau yn rhag ac am ddim i fyfyrwyr a staff (sydd â beic), cyngor ar ddiogelwch a rhoi marciau diogelwch ar feic a gwybodaeth am aelodaeth rhad ac am ddim cynllun beicio Santander Abertawe. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
Cefnogwch Ddiwrnod y Ddaear

Yn nes ymlaen y mis hwn byddwn yn ymuno yn nathliadau Diwrnod y Ddaear (22). Y thema eleni yw ‘buddsoddi yn ein planed’ ac mae’n archwilio sut y gallwn adeiladu dyfodol llewyrchus a theg sy’n gofalu am bobl a’r amgylchedd.

Beth am gymryd y cyfle i ymuno â’ch cydweithwyr, ffrindiau ar eich cwrs, ffrindiau sy’n rhannu tŷ, neu’r gymdeithas i drefnu rhywbeth ar y cyd ar gyfer Diwrnod y Ddaear? Er enghraifft, gallwch; brynu planhigion ar gyfer eich fflat neu swyddfa, ysgogi eich tîm i osgoi defnyddio poteli dŵr untro neu gwpanau papur, rhannu ryseitiau di-gig hawdd a cheisio mynd yn ddi-gig fel fflat neu drefnu digwyddiad codi sbwriel. Beth bynnag fo’ch penderfyniad, rhowch wybod inni fan hyn ac fe gewch 300 o Bwyntiau Gwyrdd!
Eich cyflwyniadau

Rydym wrth ein bodd yn gweld eich cyflwyniadau bob mis, ac mae’n wych gweld bod cynifer ohonoch wedi cymryd rhan yn ein gweithgaredd Just Give!, dyma rai o’ch cyflwyniadau diweddaraf:

"Wedi rhoi dydd Mawrth a dydd Mercher i gynnal cyfres o weithdai i roi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddeall cyflogaeth yn y DU" - Jill B

"Trefnu dosbarthiadau Saesneg rhad ac ddim i ffoaduriaid" - Sadie F R

"Wedi cyfrannu i Oergell Gymunedol Abertawe i gael gwared ar dlodi bwyd a helpu’r achos!" - Deshna J

Eich enillwyr mis Mawrth

Llongyfarchiadau gwresog i’n 10 myfyriwr a staff a enillodd daleb £10 ar ôl dod i’r brig gyda’r mwyaf o Bwyntiau Gwyrdd misol fis diwethaf! Cymerwch ran yn y gweithgareddau isod, a gallwch chi fod yn un o enillwyr mis Ebrill.
Camau gweithredu i'w cymryd nawr:
Teithiwch i’r Campws ac adref mewn modd mwy llesol a chynaliadwy ac enillwch hyd at 125 o Bwyntiau Gwyrdd.
Enillwch hyd at 100 o Bwyntiau Gwyrdd bob wythnos drwy gymryd seibiannau ymwybyddiaeth ofalgar gartref.
Facebook
Twitter
Website
Email
Copyright © 2022 Jump, All rights reserved.


unsubscribe from this list    update subscription preferences