fbpx
Theatr Awyr Agored 7 & 8 Awst
Archebwch Nawr

Does dim ffordd well o fwynhau misoedd yr haf na thrwy oeri a chwarae yn Lido Blackpill, parc dŵr Abertawe!

Mae Blackpill Lido, sydd ar lwybr Prom Abertawe yn ardal Blackpill sy’n edrych dros fae godidog Abertawe yn cynnwys pwll padlo a nodweddion dŵr gwych yn ogystal ag ardal chwarae i blant, carreg ddringo a chyfleusterau picnic.

A gorau oll – gallwch ymweld â Lido Blackpill am ddim!

Does dim angen i chi boeni os ydych chi’n anghofio’ch cadair chwaith, gallwch logi cadeiriau cynfas yn Lido Blackpill

Y gost yw £2.50 y gadair am y diwrnod a bydd angen i chi ddychwelyd rheini erbyn 5pm

Mae Lido Blackpill ar agor yn ddyddiol o 4 Mai 2024 i 22 Medi 2024 o 9am tan 5pm