Date
27 April, 2024
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili 2024
icon

Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill o 9am-5pm!

Sgroliwch i lawr am yr holl fanylion!

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau eraill sy’n digwydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn www.visitcaerphilly.com.

Ac ewch i dudalen digwyddiadau Facebook YMA i gael diweddariadau rheolaidd a phostiadau gan fasnachwyr digwyddiadau!

27 Ebrill 2024

Bydd Canol Tref Caerffili yn troi'n farchnad rhwng 9am a 5pm.

Bydd dros 100 o ddeiliaid stondin yn codi blas ar ymwelwyr gydag arogleuon bendigedig, seiniau sy'n hisian a chynnyrch a fydd yn tynnu dŵr i ddannedd.

Bwyd a Diod Flasus

Yn orlawn o ddanteithion coginiol ac yn cael eu hategu gan Farchnad y Crefftwyr boblogaidd, Marchnad Crefft a Bwyd Canolfan Siopa Cwrt y Castell a Ffair Grefft Caerffili ar bwys y Cofadail gan Crafty Legs, bydd dros 130 o fasnachwyr gwahanol!

Ymwelwyr yn dychwelyd gan gynnig detholiad gwych o gawsiau i'w blasu a'u prynu.

Canol Tref Caerffili

Bydd y stryd fawr (Cardiff Road) i Faes Parcio'r Twyn yn cael ei thrawsnewid yn farchnad brysur.

Bydd Cardiff Road a rhai strydoedd ymyl cyfagos ar gau.

Gweler gwaelod y dudalen we hon am wybodaeth bwysig i breswylwyr a manwerthwyr.

Parcio a Chludiant

Mae parcio ar gael ym maes parcio talu ac arddangos Crescent Road ar Crescent Road, Caerffili CF83 1XY. Mae yna ddewis o opsiynau talu ac arddangos arhosiad hir neu fyr. Mae maes parcio gorsaf drenau Caerffili hefyd yn faes parcio talu ac arddangos. Mae gan Ganolfan Siopa Cwrt y Castell faes parcio AM DDIM ond dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae. Gwiriwch yr arwyddion wrth gyrraedd.

Bydd parcio AM DDIM ar gael drwy’r dydd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Y Gwyndy, dim ond taith gerdded fer i ffwrdd o’r ŵyl.

Bydd Cardiff Road a rhai strydoedd ymyl cyfagos ar gau.

Cliciwch isod i weld map parcio ar gyfer y digwyddiad!
Find Out More
title banner
Stondinau Bwyd a Diod
Bydd dros 70 o stondinau bwyd a diod gyda chacennau, bara, melysion, cyffug, teisennau, sawsiau, perlysiau a sbeisys, siytni, pitsa a llawer mwy. Mwynhewch flasu diod neu ddwy gan y nifer fawr o werthwyr gwirodydd, cwrw a seidr. Rhowch gynnig ar y gwahanol gawsiau sydd ar gael a phrynu eich ffefrynnau chi. Bydd digonedd o fwyd stryd i dynnu dŵr o'ch dannedd chi… aroglwch y sawrau a gwylio'r bwyd poeth yn cael ei goginio o'ch blaen chi.

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Arddangosfeydd ac Adloniant Coginio
Mwynhewch yr arddangosiadau coginio trwy gydol y dydd, bydd rhaglen lawn yn cael ei bostio fan hyn yn fuan. Bydd diddanwyr stryd o gwmpas yr ŵyl trwy gydol y dydd!

Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Coetsys &

Grwpiau

Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili yn lle gwych ar gyfer teithiau undydd neu wyliau byr i grwpiau; mae lleoedd parcio coetsys ar gael yn agos at safle'r digwyddiad. Bydd coetsys sy'n cadw lle ymlaen llaw yn cael manteisio ar leoedd parcio neilltuedig. Bydd gyrwyr coetsys yn cael bag o roddion bach a thaleb fwyd i'w defnyddio mewn bwyty lleol. I gadw lle ar gyfer coets yn ystod y digwyddiad, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk
vc_logo
Atyniadau, llety, a mannau bwyta yn yr ardal
Cyfle cyffrous i noddi Gŵyl Fwyd a Diod Caerffili

Mae pecynnau noddi ar gael sy'n gweddu i fusnesau o bob math a maint. Cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Fusnes ar digwyddiadau@caerffili.gov.uk Anfonwch neges e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk a bydd un o'r Swyddogion Digwyddiadau yn cysylltu â chi.

Arddangos yng Ngŵyl Fwyd a Diod Caerffili

Oes diddordeb gyda chi mewn cael stondin yn yr ŵyl eleni? I gael ffurflen gais, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk

icon email
Stay up to date

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili, cofrestrwch ar gyfer ein e-fwletinau:

Sign up here

Click to view our Privacy Policy

 

 

News
Edrychwch ar fanylion arddangosiadau, masnachwyr ac adloniant yn yr adran, "Beth Sydd Ymlaen", uchod!
 
Be Social
@facebook 
@twitter      
@instagram
Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili wedi'i chefnogi gan…
Sponsor Image Sponsor Image Sponsor Image