Cymru, Gwlân a Chaethwasiaeth - gweithdy gwneud gronau

Actions Panel

Cymru, Gwlân a Chaethwasiaeth - gweithdy gwneud gronau

Zine-making workshop to explore local stories of wool production and the entangled histories of slavery, empire and Welsh wool.

By Charlotte Hammond, Cardiff University

Date and time

Monday, November 7, 2022 · 10am - 3pm GMT

Location

Coleg Menai, Parc Menai

FFORDD Y LLYN Parc Menai Bangor LL57 4BN United Kingdom

About this event

Cymru, Gwlân a Chaethwasiaeth - gweithdy gwneud gronau

Gweithdy gwneud gronau i drafod straeon lleol am gynhyrchu gwlân a sut mae hanesion caethwasiaeth, ymerodraeth a gwlân o Gymru yn cyd-weu.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dyfodol gwrth-drefedigaethol a gwrth-hiliaeth? Efallai fod gennych chi angerdd dros dreftadaeth Gymreig a hanes lleol? Neu efallai eich bod chi eisiau dysgu am zines a chollage creadigol.

Cylchgronau neu lyfrynnau creadigol wedi'u gwneud â llaw am bwnc penodol yw ‘zines'. Yn y gweithdy hwn byddwch yn creu eich zine bach eich hun i archwilio hanes gwlân Cymru a’i gysylltiadau â chaethwasiaeth drawsiwerydd.

Ymunwch â ni am weithdy yng Ngholeg Menai gydag academyddion, artistiaid, actifyddion a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Coleg Menai a Rhwydwaith Teithiau Cerdded y Dreftadaeth Ddu. Byddwch yn dysgu am straeon lleol am gynhyrchu gwlân a gwaddolion dyrys caethwasiaeth, ymerodraeth a gwlân Cymreig trwy:

- Dulliau creadigol o luniadu, torri a collage

- Darllen ffynonellau, straeon a delweddau hanesyddol yn agos.

Mae’r gweithdy hwn ar agor i bobl ifanc 18-25 oed sy’n astudio Hanes, Celf, Dylunio, neu Decstilau.

Bydd cyfranogwyr yn elwa o ddefnyddio dulliau creadigol a hygyrch i gael persbectif a dealltwriaeth newydd o rôl 'eu hardal leol', Cymru a gwlân Cymreig yng ngorffennol trefedigaethol Prydain.

Nid oes angen unrhyw brofiad o wneud collage a zine arnoch i gymryd rhan. Nod y gweithdai hyn yw darparu gofod diogel a chynhwysol lle mae pobl yn teimlo’n rhydd i fynegi eu hunain yn greadigol a rhannu eu syniadau am ystod o bynciau cydgysylltiedig sensitif, gan gynnwys hil, gwladychiaeth ac ymerodraeth sy’n parhau i effeithio ar gymdeithas Cymru heddiw.

Gwaith celf gan fyfyriwr gradd Sylfaen Coleg Menai.

Wales, Wool and Slavery - zine-making workshop

Are you interested in anti-colonial and anti-racist futures? Perhaps you have a passion for Welsh heritage and local history? Or you may just want to learn about zines and creative collage.

‘Zines’ are creative handmade magazines or booklets about a particular subject. In this workshop you will create your own small zine to explore the history of Welsh wool and its links to transatlantic slavery.

Join us for a workshop at Coleg Menai with academics, artists, activists and students from Cardiff University, Coleg Menai and the Black Heritage Walks Network. You will learn about local stories of wool production and the entangled legacies of slavery, empire and Welsh wool through:

- Creative methods of drawing, cutting and collage

- Close reading of historical sources, stories and imagery.

This workshop is open to 18-25 year olds studying History, Art, Design, or Textiles.

Participants will benefit from using creative and accessible methods to gain new perspective and understanding of the role of ‘their local area’, Wales and Welsh wool in Britain’s colonial past.

You do not need any experience of collage and zine making to attend. The aim of these workshops is to provide a safe and inclusive space where people feel free to express themselves creatively and share their ideas about a range of sensitive interlinked topics, including race, colonialism and empire that continue to impact Welsh society today.

Art work by Coleg Menai Foundation degree student.

Organized by

Sales Ended