SCROLL DOWN FOR ENGLISH TEXT
CYMRAEG
Bydd y sesiynau ar-lein hyn ar gael i unrhyw un sy'n darparu gofal i bobl sy'n byw â dementia, ac sydd ddim yn teimlo'n hyderus i siarad Cymraeg â phobl sy'n byw gyda dementia. Mae nhe hefyd yn agored i bobl sydd heb unrhyw sgiliau Cymraeg ac maent yn tynnu sylw at ba gefnogaeth sydd ar gael iddynt i ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda dementia, os mae Cymraeg yw eu hiaith gyfathrebu.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom. Caiff y ddolen ymuno ei ddanfon atoch y diwrnod cyn y digwyddiad, os ydych wedi cofrestru.
Sesiwn 5 – Adnoddau i'ch helpu chi i ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith Gymraeg
Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am apiau ac adnoddau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, awgrymiadau, syniadau a chefnogaeth yn y gymuned i'ch annog i ddefnyddio a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
Sesiwn 6 – Atgof a’r iaith Gymraeg
Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i Weithgareddau Therapi Rhyngweithiol Atgoffa (RITA)
Sesiwn 7 – Defnyddio Cymraeg yn y gwaith
Bydd y rhan gyntaf yn edrych ar Gymraeg a'r we, a phwysigrwydd defnyddio'r we yn Gymraeg. Byddwn hefyd yn edrych ar rwystrau a datrysiadau. Mae adnoddau Cymraeg ar gael ar y we yn barod, fel newyddion, a gwefannau iechyd a gweinyddol.
Dewch i gael hwyl a rhoi cynnig arni….
Yn y sesiwn hon fe gewch arddangosiad o'r ap dysgu iaith Duolingo, y byddwn yn dangos i chi sut i lawrlwytho'r ap a chreu cyfrif, ac egluro'r ffyrdd y gall yr ap eich annog i ddysgu'n gyson.
Byddwn yn cyflwyno'r Padlet - yr hysbysfwrdd “rhithwir” ar-lein gyda llawer o adnoddau i'ch cefnogi chi i ddysgu, defnyddio a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
* * *
ENGLISH
These online sessions are open to anyone providing care to people living with dementia. They are aimed at people who feel less confident to speak any Welsh with people living with dementia. They are also aimed at people who have no Welsh language skills and highlights what support is available for them to be able to deliver services to people living with dementia if their language of communication is Welsh.
This event will be held on Zoom. You will be sent the joining link the day before the event if you have registered.
Session 5 – Resources to support you use and develop your Welsh language skills
In this session you will hear about health and social care specific apps and resources, tips and ideas and support in the community to encourage you to use and develop your Welsh language skills.
Session 6 – Reminiscence and Welsh language
This session will introduce you to Reminiscence Interactive Therapy Activities (RITA)
Session 7 – Using Welsh language at work
The first part will look at Welsh language and the web, and the importance of using the web in Welsh, looking at and barriers people have and finding solutions. Welsh resources already available on the web, such as news, health and admin sites.
Lets have fun and have a go….
In this session you will get a demonstration of the language learning app Duolingo, show you how to download the app and create an account, and explain the ways the app can encourage you to learn consistently.