Informing Policy with Cardiff University

Informing Policy with Cardiff University

Implementing the Cardiff Model for Violence Prevention in Wales

By Cardiff University

Date and time

Thu, 22 Sep 2022 01:00 - 02:00 PDT

Location

Online

About this event

Mae ein rhaglen o weminarau’n rhoi cyfle i academyddion Prifysgol Caerdydd drafod amrywiaeth o bynciau’n uniongyrchol â llunwyr polisïau pan fydd eu harbenigedd ym maes ymchwil yn gallu llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau. Yn ogystal â chael gwybod am yr ymchwil sy’n cael ei gwneud a phrofiadau ymarferwyr ar y rheng flaen, gall y rhai sy’n bresennol hefyd gyfrannu at y drafodaeth drwy sesiwn holi ac ateb, lle bydd rheolau Chatham House yn berthnasol i’w gwneud yn bosibl cael trafodaeth onest ac agored.

Mae ein rhaglen o weminarau’n parhau gyda’r academydd, yr Athro Jonathan Shepherd CBE, yn trafod Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais. Dyma strategaeth gydweithredol ym maes iechyd y cyhoedd i atal trais. Mae’n dibynnu ar ddefnyddio gwybodaeth gan sefydliadau iechyd a sefydliadau gorfodi'r gyfraith mewn ffordd strategol er mwyn gwella rhaglenni plismona ac atal trais cymunedol. Mae’r model wedi’i gyflwyno’n eang ledled Lloegr ac mewn dinasoedd yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, De Affrica, De America a Jamaica.

Bydd y sesiwn hon yn cynnig cyfle i lunwyr polisïau drafod y model a sut y gellid ei roi ar waith yng Nghymru.

_____________________________________________________________________________________

Our webinar programme provides a space for Cardiff University academics to speak directly with policy-makers on a variety of topics where their research expertise can inform policy development. As well as hearing insights from research and reflections from practitioners at the front-line, attendees can also contribute to the discussion through a Q&A under Chatham House rules to allow for honest, open debate.

Our webinar programme continues with academic Professor Jonathan Shepherd CBE discussing The Cardiff Model for Violence Prevention. This is a collaborative public health strategy to prevent violence. It relies on the strategic use of information from health and law enforcement organisations to improve policing and community violence prevention programmes. The model has been implemented widely across England and in cities in the United States, Australia, South Africa, South America and Jamaica.

This session will offer an opportunity for policy makers to discuss the model and how it could be applied in Wales.

Organised by

Sales Ended