WISERD Annual Conference 2023

English text appears below

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023: Cymdeithas sifil a llywodraethu mewn oes o argyfwng

28 Mehefin i 29 Mehefin

Prifysgol Bangor

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023 dros ddau ddiwrnod (dydd Mercher 28 Mehefin tan ddydd Iau 29 Mehefin 2023) ym Mhrifysgol Bangor.

Gall cydweithwyr sy’n gweithio ym meysydd addysg a pholisi ac yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru ddod i’r gynhadledd.

Thema cynhadledd eleni yw 'Cymdeithas sifil a llywodraethu mewn oes o argyfwng' ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau ar y themâu allweddol canlynol:

  • Argyfyngau byd-eang a lleol, llywodraethu, a chymdeithas sifil
  • Newid hinsawdd, lle a chymdeithas sifil
  • Cymryd rhan, diwylliant a hunaniaeth iaith
  • Gwaith, bywoliaeth a chyfiawnder cymdeithasol
  • Daearyddiaethau anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
  • Cysylltiadau byd-eang Cymru: cymdeithas sifil a chymryd rhan mewn cyd-destun
  • Cymryd rhan a chymdeithas sifil drwy gwrs bywyd
  • Cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur
  • Gweithio gyda chymunedau
  • Ymchwil i actifiaeth a chymdeithas sifil
  • Ymgymryd ag ymchwil am gymryd rhan a gweithredu

 

Cystadleuaeth poster myfyrwyr PhD - noddir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru

 

Mae myfyrwyr PhD yn cael cyfle i gyflwyno a thrafod eu posteri yn ystod egwyl cinio a lluniaeth Cynhadledd Flynyddol WISERD.

 

Cyhoeddir yr enillydd ddydd Iau 29 Mehefin. Bydd gwobrau ar gael ar gyfer y posteri sydd yn y safleoedd cyntaf, ail a thrydydd (a byddant yn cynnwys arian parod a thocynnau llyfrau).

 

Os oes gennych gwestiynau ynglŷn ag arddangos eich poster neu'r gystadleuaeth posteri, ebostiwch WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk a byddwn yn fwy na pharod i helpu.

 

Cadw eich lle

 

Bydd modd cofrestru i ddod i’r gynhadledd o 23 Mawrth 2023 ymlaen. Bydd angen i bawb sy'n cyflwyno gofrestru erbyn y dyddiad cau cynnar, sef 1 Mai 2023.

 

Llety

 

Byddwch yn ymwybodol bod y llety sydd ar gael ar gyfer cynhadledd WISERD eleni yn gyfyngedig. A wnewch chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os oes angen llety arnoch naill ai ar 27 neu 28 Mehefin, a bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr aros. Yn anffodus, ni allwn warantu llety i bawb a fydd yn bresennol a byddwn yn darparu hyn ar sail y cyntaf i'r felin.

 

Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd

 

Cyfraddau deuddydd

 

Cyfradd deuddydd safonol ar gyfer cofrestru’n gynnar: 28 a 29 Mehefin (ar gyfer cofrestru cyn 1 Mai 2023) – £140.00

 

Cyfradd deuddydd safonol i fyfyrwyr ar gyfer cofrestru’n gynnar: 28 a 29 Mehefin (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru cyn 1 Mai 2023) – £60.00

 

Cyfradd undydd safonol elusennau / y trydydd sector ar gyfer cofrestru’n gynnar: 28 a 29 Mehefin (ar gyfer cofrestru cyn 1 Mai 2023) – £60.00

 

Cyfradd deuddydd safonol ar gyfer cofrestru’n hwyrach: 28 a 29 Mehefin (ar gyfer cofrestru ar ôl 1 Mai ond cyn 1 Mehefin) – £200.00

 

Cyfradd deuddydd safonol i fyfyrwyr ar gyfer cofrestru’n hwyrach: 28 a 29 Mehefin (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru ar ôl 1 Mai ond cyn 1 Mehefin) – £70.00

 

Cyfradd deuddydd safonol elusennau / y trydydd sector (ar gyfer cofrestru ar ôl 1 Mai ond cyn 1 Mehefin) - £70.00

 

Cyfradd undydd

 

Cyfradd undydd ar gyfer cofrestru’n gynnar (ar gyfer cofrestru cyn 1 Mai 2023) – £70.00

 

Cyfradd undydd i fyfyrwyr ar gyfer cofrestru’n gynnar (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru cyn 1 Mai 2023) – £30.00

 

Cyfradd safonol elusennau/ y trydydd sector ar gyfer cofrestru’n gynnar (ar gyfer cofrestru cyn 1 Mai 2023) - £30.00

 

Cyfradd undydd safonol (ar gyfer cofrestru ar ôl 1 Mai ond cyn 1 Mehefin) – £100.00

 

Cyfradd undydd safonol i fyfyrwyr (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru ar ôl 1 Mai ond cyn 1 Mehefin) – £35.00

 

Cyfradd undydd safonol elusennau / y trydydd sector (ar gyfer cofrestru ar ôl 1 Mai ond cyn 1 Mehefin) - £35.00

 

TELERAU AC AMODAU

 

Mae’r ffioedd cofrestru'n cynnwys costau cynnal sesiynau'r gynhadledd a chostau darparu cinio a lluniaeth. Nid yw’r ffioedd yn cynnwys costau teithio a llety.

 

Mae llety’n opsiwn ychwanegol, a rhaid talu amdano cyn y digwyddiad.

Ni all y trefnwyr dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a dalwyd os oes rhaid canslo'r gynhadledd o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.

 

Cyfraddau ar gyfer cofrestru’n gynnar: I fod yn gymwys ar gyfer y cyfradd ar gyfer cofrestru’n gynnar, rhaid cofrestru erbyn 1 Mai 2023. Os bydd unigolyn yn cofrestru ar ôl y dyddiad hwn, bydd yn rhaid iddo dalu’r gyfradd lawn.

 

Polisi Canslo: Rhoddir ad-daliad llawn i unrhyw un sy'n canslo cyn 3 Mehefin 2023.

Ni chaiff unrhyw arian ei ad-dalu os bydd unigolyn yn canslo ar ôl dydd Gwener, 3 Mehefin 2023. Mae'n rhaid canslo’n ysgrifenedig neu drwy ebost. Gellir anfon dirprwy, ond rhaid gofyn am gael gwneud hynny ymlaen llaw, a hynny'n ysgrifenedig neu drwy ebost

 

Gallwch ddarllen Polisi Preifatrwydd llawn WISERD i weld pa ddata rydym ni'n ei gadw, sut rydym ni'n ei ddefnyddio a beth yw'ch hawliau.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch: WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.

                                                                                                                                                                        

WISERD 2023 Annual Conference: Civil society and governance in an age of crisis

                                                                                          

28 June to 29 June

Bangor University

The WISERD 2023 Annual Conference will take place over two days (Wednesday 28 June to Thursday 29 June 2023) at Bangor University.

The conference is open to colleagues from across the academic, policy, public, private, and third sectors in Wales.

The theme for this year’s conference is ‘Civil society and governance in an age of crisis’ and includes a variety of presentations on the following key themes:

  • Global and local crises, governance, and civil society
  • Climate change, place and civil society
  • Language participation, culture and identity
  • Work, liveability and social justice
  • Geographies of inequality and social justice
  • Wales’s global connections: civil society and participation in context
  • Participation and civil society through the life course
  • Participation in education and the labour market
  • Working with communities
  • Activism and civil society research
  • Doing participatory and action research

PhD student poster competition - sponsored by the Learned Society of Wales and ESRC Wales Doctoral Training Partnership

PhD students have the opportunity to present and discuss their poster throughout the lunch and refreshments breaks during the WISERD Annual Conference.

The winner will be announced on Thursday 29 June and the prizes will be available for the posters ranked first, second and third (with prizes including cash and book tokens).

If you have any questions regarding displaying your poster or the poster competition, please email WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk and we’ll be happy to help.

Booking

Registration for the conference opens on 23 March 2023 and all presenters will need to register by the early bird deadline of 1 May 2023.

Accommodation

Please be aware that there is limited accommodation available for this year's WISERD Annual Conference. Please can you let us know as soon as possible if you require accommodation on either the 27 or 28 June, and your name will be added to a waiting list. Unfortunately, we cannot guarantee accommodation for all attendees and we will provide this on a first come, first served basis.

Conference Registration

Two Day Rates

Early Bird Standard Two Day Rate: 28 and 29 June (for bookings made prior to 1 May 2023) - £140.00

Early Bird Standard Student Two Day Rate: 28 and 29 June (for currently registered PhD students, for bookings made prior to 1 May 2023) - £60.00

Early Bird Standard Charities / Third Sector Two Day Rate: 28 and 29 June (for bookings made prior to 1 May 2023) - £60.00

Late Standard Two Day Rate: 28 and 29 June (for bookings made after 1 May and before 1 June) - £200.00

Late Standard Student Two Day Rate: 28 and 29 June (for currently registered PhD students, for bookings made after 1 May and before 1 June) - £70.00

Late Standard Charities / Third Sector Two Day Rate (for bookings made after 1 May and before 1 June) - £70.00

One Day Rate

Early Bird Day Rate (for bookings made prior to 1 May 2023) - £70.00

Early Bird Student Day Rate (for currently registered PhD students, for bookings made prior to 1 May 2023)- £30.00

Early Bird Standard Charities / Third Sector Day Rate (for bookings made prior to 1 May 2023)- £30.00

Standard Day Rate (for bookings made after 1 May and before 1 June) - £100.00

Standard Student Day Rate (for currently registered PhD students, for bookings made after 1 May and before 1 June)- £35.00

Standard Charities / Third Sector Day Rate (for bookings made after 1 May and before 1 June)- £35.00

TERMS & CONDITIONS

Conference registration fees include access to conference sessions, lunch and refreshments. Fees do not include travel or accommodation.

Accommodation is available as an optional extra and payment must be received prior to the event.

The organisers cannot accept liability for costs incurred in the event of the conference having to be cancelled as a result of circumstances beyond its reasonable control.

Early Bird Rate: To qualify for ‘the Early Bird rate’ you must register by 1 May 2023. Bookings received after this date will be subject to the full delegate rate.

Cancellation Policy: A full refund will be given for any cancellations before Friday 3 June 2023. No money will be refunded for cancellations after Friday 3 June 2023. Cancellation must be made in writing / by email. Substitutions are acceptable but must be requested in writing / by email in advance.

You can read WISERD's full Privacy Policy to find out what data we retain, how we use it and what your rights are.

If you have any queries, please email: WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk or telephone: 029 208 75260.