Canllawiau

Talu grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn ôl

Dysgu sut i ad-dalu’ch grant i gyd neu ran ohono, sut i wneud ad-daliad gwirfoddol, neu beth mae angen i chi ei wneud os nad ydych wedi talu digon i’ch staff ar ôl hawlio’r grant.

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021.

Mae’n rhaid i chi gael cyfeirnod talu a thalu CThEM yn ôl cyn pen 30 diwrnod, os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi hawlio gormod drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
  • hoffech wneud ad-daliad gwirfoddol (oherwydd nad ydych eisiau neu angen y grant i dalu cyflogau, treth ac Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn eich cyflogeion)

Sut i dalu

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein er mwyn cael eich cyfeirnod talu cyn y gallwch dalu CThEM yn ôl. Dylech ond gwneud hyn os nad ydych yn cyflwyno hawliad arall.

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Talu drwy fancio ar-lein neu dros y ffôn, CHAPS a Bacs

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif CThEM.

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001039 HMRC Cumbernauld

Taliadau:

  • Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc
  • Fel arfer, mae CHAPS yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amseroedd prosesu’ch banc
  • Fel arfer, mae BACS yn cymryd 3 diwrnod gwaith

Talu â cherdyn

Gallwch hefyd dalu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol.

Os ydych wedi gorhawlio

Os ydych wedi gor-hawlio grant, ac nid ydych wedi’i ad-dalu, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM erbyn un o’r canlynol (p’un bynnag sydd hwyraf):

  • 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch y grant nad oedd gennych hawl iddo
  • 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y newidiodd eich amgylchiadau gan olygu nad oedd gennych hawl i gadw’r grant mwyach
  • 20 Hydref 2020

Os na wnewch hynny, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Os ydych yn ad-dalu unrhyw grant sydd wedi’i ordalu, bydd hyn yn atal unrhyw rwymedigaeth treth bosibl mewn perthynas â gordaliad Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Ni fyddwn wrthi’n chwilio am wallau diniwed yn ein gwaith cydymffurfio.

Dysgwch ragor ynghylch pryd y gallai fod yn rhaid i chi dalu cosb a gwybodaeth arall, gan gynnwys:

  • sut mae CThEM yn penderfynu ar swm y gosb
  • pryd na fydd CThEM yn codi cosb
  • sut i apelio yn erbyn cosb

Os oes angen rhagor o amser arnoch i gyfrifo’r hyn sydd arnoch

Gallwch roi gwybod i ni eich bod yn credu eich bod wedi gorhawlio

Bydd hyn yn rhoi gwybod i ni:

  • y gallech fod wedi hawlio gormod
  • y byddwch yn talu’r arian yn ôl pan fyddwch wedi cyfrifo’r hyn sydd arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich cyfeirnod TWE y Cyflogwr
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad (os nad ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth)

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni faint sydd arnoch cyn gynted ag y bo’n rhesymol i chi wneud hynny, a’n talu’n ôl. Mae’n rhaid i hyn fod cyn pen 30 diwrnod ar ôl cael cyfeirnod talu.

Os byddwn yn canfod eich bod heb wneud hyn, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r grant cyfan yn ôl, neu ran ohono, a thalu cosb. Gallai swm y gosb fod cymaint â swm y grant nad oedd gennych hawl i’w gael na’i gadw.

Os nad ydych wedi talu digon i’ch cyflogeion

Os ydych wedi hawlio’r grant, mae’n rhaid i chi fod wedi talu un o’r canlynol i’ch cyflogeion, p’un bynnag sydd isaf:

  • 80% o’u cyflogau ar gyfer yr oriau nad oeddent yn gweithio
  • cyfradd fisol o £2,500 (neu swm cyfatebol os nad yw’r cyfnod hawlio’n fis cyfan) ar gyfer yr oriau na chawsant eu gweithio

Os na wnaethoch dalu digon i’ch cyflogeion ar draws pob cyfnod hawlio, mae’n rhaid i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • ychwanegu at eu cyflogau er mwyn cyrraedd y lefel ofynnol
  • ad-dalu’r grant

Faint o amser sydd gennych i ychwanegu at gyflogau

Mae’n rhaid i chi ychwanegu at gyflogau o fewn ‘cyfnod rhesymol’. Fel arfer, nid yw’r cyfnod hwn yn gorffen yn hwyrach na:

  • 31 Ionawr 2022 ar gyfer taliadau a gafwyd yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021, a hynny ar gyfer cwsmeriaid sy’n cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer Treth Incwm
  • 31 Ionawr 2023 ar gyfer taliadau a gafwyd yn ystod blwyddyn dreth 2021 i 2022, a hynny ar gyfer cwsmeriaid sy’n cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer Treth Incwm
  • 12 mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu perthnasol os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Cwmni

Efallai y byddwn yn pennu cyfnod byrrach neu (mewn achosion eithriadol) hirach, yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol.

Os byddwn yn cysylltu â chi ynghylch gwall yn eich hawliad, byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn pryd y mae angen cywiro hwn. Os na chaiff gwallau eu cywiro erbyn y dyddiad a roddwn i chi, efallai y bydd angen i chi ad-dalu’r grant a thalu cosb.

Os dewch o hyd i wall wrth gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Mae angen i chi unioni unrhyw dandaliad cyflog i gyflogeion cyn pen 2 fis i ddyddiad cyflwyno statudol y Ffurflen Dreth.

Os ydych wedi darparu ffigurau dros dro yn eich Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi ddarparu ffigurau terfynol cyn gynted ag y bo’n rhesymol i chi wneud hynny. Bydd gennych hyd at 2 fis ar ôl y dyddiad y caiff ffigurau terfynol eu darparu i unioni cyflogau i gyflogeion.

Enghraifft

Mae’n rhaid i Gwmni A gyflwyno’i Ffurflen Dreth Cwmni ar 31 Rhagfyr 2021.

Fel rhan o archwiliad mewnol ym mis Rhagfyr 2021, mae Cwmni A yn nodi gwallau yn y cyflogau mae wedi’u talu i gyflogeion.

Byddem yn disgwyl i Gwmni A nodi’r gwallau’n gywir yn y Ffurflen Dreth y mae’n ei chyflwyno ar 31 Rhagfyr 2021, a thalu’r diffyg yn y cyflogau erbyn 28 Chwefror 2022. Os nad yw Cwmni A yn talu’r diffyg yn y cyflogau, efallai y bydd angen iddo ad-dalu’r grant a thalu cosb.

Gwrthbwyso swm rydych wedi’i or-hawlio

Wrth gyfrifo’r swm rydych wedi’i or-hawlio yn ystod cyfnod hawlio, gallwch gynnwys yr holl gyflogeion yn y cyfnod hawlio unigol hwnnw.

Mae hyn yn golygu os ydych wedi gor-hawlio ar gyfer un cyflogai, gallwch wrthbwyso hyn gan swm sy’n hafal i unrhyw symiau rydych wedi’u tan-hawlio ar gyfer cyflogai arall sydd wedi’i gynnwys yn yr un cyfnod hawlio. Ni allwch wrthbwyso’r swm rydych wedi’i or-hawlio yn ystod un cyfnod hawlio yn erbyn swm rydych wedi’i dan-hawlio yn ystod cyfnod hawlio arall.

Gallwch wneud hyn o 11 Hydref 2021 ymlaen yn unig ar gyfer y canlynol:

  • hawliadau a diwygiadau ar gyfer mis Medi 2021
  • hawliadau a diwygiadau hwyr os oes gennych ‘esgus rhesymol’
  • datgeliadau o orhawliadau ar gyfer unrhyw gyfnod hawlio

Ni fyddwn yn:

  • caniatáu unrhyw ddiwygiadau i ddatgeliadau blaenorol
  • ailagor unrhyw asesiadau ar sail yr arweiniad a oedd ar waith ar y pryd

Os oeddech eisoes wedi gwrthbwyso hawliadau rhwng cyflogeion yn yr un cyfnod hawlio cyn 11 Hydref, ni fyddwn yn ceisio adennill unrhyw swm a orhawliwyd mewn perthynas â gwrthbwyso ar gyfer yr hawliadau hynny, ac nid oes angen i chi ddiwygio’r hawliad.

Os nad ydych wedi talu digon i unrhyw gyflogeion unigol, mae’n rhaid i chi unioni’r gwerth hwnnw i’r cyflogeion hynny. Mae hyn oherwydd bod y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn mynnu bod y cyflogai’n cael isafswm o 80% o’r tâl cyfeirio ar draws pob cyfnod hawlio. Fel arall, efallai y bydd angen i chi dalu’r grant yn ôl.

Mae’n rhaid i chi ad-dalu i CThEM unrhyw orhawliad ar ôl gwrthbwysiadau ar gyfer unrhyw gyfnod.

Enghraifft o wrthbwyso swm rydych wedi’i orhawlio

Gwnaeth A Cyf hawlio £3,000 ar gyfer 1 Medi 2021 i 30 Medi 2021. Roedd hyn yn cynnwys £1,200 ar gyfer Cyflogai 1 a £1,800 ar gyfer Cyflogai 2.

Gwnaeth A Cyf adolygu’r hawliad ar ôl y dyddiad cau ar gyfer diwygiadau, a nodi y dylai Cyflogai 1 fod wedi cael £1,800 ac y dylai Cyflogai 2 fod wedi cael £1,500.

Gellir gwrthbwyso £300 o’r tanhawliad o £600 ar gyfer Cyflogai 1 yn erbyn y gorhawliad o £300 ar gyfer Cyflogai 2. Mae hyn yn golygu bod gan A Cyf ordaliad net o £0. Ni ellir gwrthbwyso’r £300 sy’n weddill ac a danhawliwyd ar gyfer Cyflogai 1 yn erbyn y gorhawliad ar gyfer Cyflogai 2, oherwydd y byddai hyn yn arwain at orhawliad net o dan £0.

Mae hyn yn golygu nad oes gan A Cyf orhawliad ar gyfer y cyfnod o 1 Medi 2021 i 30 Medi 2021.

Gwnaeth A Cyf dandalu £600 i Gyflogai 1 ym mis Medi 2021 hefyd. Fodd bynnag, mae A Cyf wedi gordalu cyfanswm o £300 i Gyflogai 1 ar draws y cyfnodau hawlio blaenorol. Mae hyn yn golygu bod angen i A Cyf dalu £300 ychwanegol yn unig i Gyflogai 1 er mwyn unioni ei gyflog hyd at fis Medi 2021, gan fod hyn yn dod i gyfanswm o £600.

Cyhoeddwyd ar 26 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 December 2021 + show all updates
  1. Added section 'If you need more time to work out what you owe'.

  2. New information added to 'If you find an error when filing your tax return' and 'Offset an amount you've overclaimed'.

  3. Added section 'If you've not paid your employees enough.' Added further information about offsetting an amount you've overclaimed.

  4. Information updated because the Coronavirus Job Retention scheme ended on 30 September. Information added about when you must get a payment reference number and pay HMRC back.

  5. 'Offset an amount you’ve overclaimed' section added.

  6. New section added called 'How to correct overclaims in your next claim'.

  7. Claims for furlough days in May 2021 must be made by 14 June 2021.

  8. Claims for furlough days in April 2021 must be made by 14 May 2021.

  9. Updated to show that the scheme has been extended until 30 September 2021.

  10. Claims for furlough days in February 2021 must be made by 15 March 2021.

  11. Added translation

  12. Claim deadline for furlough days in January 2021 added. Claims must be made by 15 February 2021.

  13. Added Welsh translation.

  14. Updated to reflect that the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended to 30 April 2021.

  15. The scheme has been extended. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 31 October 2020.

  16. The guidance from 'If you've claimed too much or not enough from the Coronavirus Job Retention Scheme' has been moved to this guide. This guide has also been updated with links to the Coronavirus Job Retention Scheme repayment service.

  17. Welsh translation has been added.

  18. First published.