Canllawiau

Cofrestru’ch sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Dysgwch sut i gofrestru’ch bwyty neu sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.

This guidance was withdrawn on

The Eat Out to Help Out Scheme closed on 31 August 2020.

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynnig gostyngiad i annog pobl i fwyta yn eich bwyty.

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan:

  • drwy’r dydd, bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst 2020

  • i gynnig gostyngiad o 50% ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i’w fwyta neu yfed y tu mewn (hyd at uchafswm gostyngiad o £10 fesul person sy’n bwyta)

  • i hawlio’r arian yn ôl gan y llywodraeth

Does dim cyfyngiad ar faint o weithiau y gall cwsmeriaid ddefnyddio’r cynnig yn ystod cyfnod y cynllun. Ni all eich cwsmeriaid gael gostyngiad ar ran rhywun nad yw’n bwyta nac yn yfed yno.

Mae alcohol a thaliadau gwasanaeth wedi’u heithrio o’r cynnig.

Ni fydd modd cofrestru ar ôl 31 Awst.

Pwy all gofrestru

Gallwch gofrestru os:

  • yw’ch sefydliad yn gwerthu bwyd i’w fwyta yn y fan a’r lle ar y safle

  • yn darparu ei ardal fwyta ei hun, neu’n rhannu ardal fwyta gyda sefydliad arall, ar gyfer prydau sydd i’w bwyta ar y safle

  • cafodd eich sefydliad ei gofrestru fel busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol ar neu cyn 7 Gorffennaf

Ni allwch gofrestru:

  • sefydliad sy’n cynnig bwyd neu ddiod tecawê yn unig

  • gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau preifat

  • gwesty sy’n rhoi gwasanaeth i’r ystafell yn unig

  • gwasanaethau sy’n darparu bwyd (megis bwyd ar fordeithiau sy’n rhan o gynnig pecyn)

  • faniau neu drelars bwyd symudol

Os yw’ch cais yn seiliedig ar wybodaeth anonest neu wallus, bydd eich cofrestriad yn cael ei ddiddymu.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I gofrestru, bydd angen arnoch:

  • y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer eich busnes (os nad oes gennych un, gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru)

  • enw a chyfeiriad pob sefydliad sydd i’w gofrestru, oni bai eich bod yn cofrestru mwy na 25

  • rhif y cyfrif banc yn y DU a’r cod didoli ar gyfer y busnes (dylid dim ond rhoi manylion cyfrif banc pan fo modd derbyn taliad BACS)

  • y cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif banc ar gyfer y busnes (dyma’r cyfeiriad sydd ar eich cyfriflenni banc)

  • y dyddiad dechreuodd eich busnes fasnachu

Hefyd, mae’n bosibl y bydd angen arnoch:

  • rhif cofrestru TAW

  • cyfeirnod cynllun TWE y cyflogwr

  • cyfeirnod unigryw y trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth, Hunanasesiad neu Hunanasesiad y Bartneriaeth

Os ydych yn cofrestru 25 o sefydliadau neu lai, mae’n rhaid i chi roi manylion pob un.

Mae’n rhaid i chi gofrestru’ch holl sefydliadau ar yr un pryd. Nid yw’n bosibl ychwanegu rhagor o sefydliadau yn nes ymlaen. Os bydd angen i chi gywiro unrhyw wybodaeth a roddir wrth gofrestru neu newid eich cofrestriad, bydd yn rhaid i chi gysylltu â CThEM.

Os ydych yn cofrestru mwy na 25 o sefydliadau

Os ydych yn cofrestru mwy na 25 o sefydliadau sy’n rhan o’r un busnes, does dim rhaid i chi roi manylion ar gyfer pob un.

Mae’n rhaid i chi roi cysylltiad i wefan sy’n cynnwys manylion pob sefydliad sy’n cymryd rhan yn y cynllun gan gynnwys yr enw masnachu a’r cyfeiriad.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd roi rhestr i CThEM os yw’n gofyn am un, yn cynnwys manylion yr holl sefydliadau sy’n cymryd rhan.

Cofrestru

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.

Os ydych wedi defnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, neu TAW, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr a’ch cyfrinair presennol.

Os na, gallwch ddefnyddio Ddynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ‘unigolyn’, neu greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) newydd a dewis math o gyfrif ‘unigolyn’.

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.

Daeth y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan i ben ar 31 Awst 2020. Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, gallwch gyflwyno hawliad tan 30 Medi 2020.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael eich cofrestru ar unwaith, a chewch gyfeirnod cofrestru – bydd angen hwn arnoch pan fyddwch yn hawlio’r ad-daliad.

Gallwch lawrlwytho deunyddiau hyrwyddo i’ch helpu i hyrwyddo’r cynllun a rhoi gwybod i’ch cwsmeriaid eich bod yn cymryd rhan.

Bydd enw a chyfeiriad eich sefydliad yn cael eu hychwanegu at restr o sefydliadau sy’n cymryd rhan, a fydd ar gael i’r cyhoedd. Os ydych wedi cofrestru mwy na 25 sefydliad, bydd URL y wefan hefyd yn cael ei ychwanegu.

Dylech gysylltu â CThEM os yw unrhyw rai o’ch gwybodaeth gofrestru yn newid.

Mae busnesau sydd â mwy nag un sefydliad yn cael eu hannog i gofrestru pob sefydliad a allai gynnig y cynllun. Ar ôl i chi gofrestru’ch busnes, efallai y bydd yn bosibl ychwanegu sefydliadau newydd. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi gysylltu â CThEM eto i wneud hyn, a gallai hyn achosi oedi cyn i’r sefydliad gael ei gynnwys yn y cynllun.

Os ydych am gael eich tynnu oddi ar y rhestr o sefydliadau cofrestredig, dylech gysylltu â CThEM a fydd yn eich tynnu â llaw. Ni wneir hyn ar unwaith, felly bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cwsmeriaid nad ydych yn cynnig y gostyngiad mwyach.

Pan fyddwch yn dechrau cynnig y gostyngiad

Dylech gynnwys enw’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan ar y bil pan rydych yn cynnig y gostyngiad.

Dylech aros hyd nes eich bod wedi’ch cofrestru cyn i chi gynnig gostyngiad i’ch cwsmeriaid. Ni allwch gynnig gostyngiad cyn 3 Awst.

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cynllun, disgwylir y byddwch yn ei gynnig yn ystod eich holl oriau agor, ar yr holl ddiwrnodau cymwys rydych ar agor, ac ar bob gwerthiant cymwys o fwyd neu ddiod.

Os yw cwsmer yn prynu pryd o fwyd gyda’r bwriad o’i fwyta ond yna’n mynd ag ef i ffwrdd ac yn gadael y safle, gallwch barhau i roi’r gostyngiad.

Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw

Ar gyfer pob diwrnod rydych yn defnyddio’r cynllun, mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r canlynol:

  • cyfanswm y bobl sydd wedi defnyddio’r cynllun yn eich sefydliad

  • cyfanswm gwerth y trafodion o dan y cynllun

  • cyfanswm y gostyngiad a roddwyd gennych

Os ydych yn defnyddio’r cynllun ar gyfer mwy nag un sefydliad, mae’n rhaid i chi gadw’r cofnodion hyn ar gyfer pob un.

Cyflwyno hawliad

Ni allwch hawlio eto. Bydd y gwasanaeth y byddwch yn ei ddefnyddio i gyflwyno hawliad ar gael ar 7 Awst 2020.

Bydd y gwasanaeth yn cau ar 30 Medi.

Mae’n rhaid i chi aros 7 diwrnod ar ôl cofrestru cyn gwneud eich hawliad cyntaf. Bydd CThEM yn talu hawliadau cymwys cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Byddwch yn gallu cyflwyno hawliadau yn wythnosol.

Bydd angen i chi dalu TAW o hyd, yn seiliedig ar swm llawn biliau’ch cwsmeriaid.

Bydd unrhyw arian a gewch drwy’r cynllun yn cael ei drin fel incwm trethadwy.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi rhagor o arweiniad ar sut i gyflwyno hawliad pan fydd y gwasanaeth cofrestru ar agor.

Help arall y gallwch ei gael

Mae CThEM wedi cyhoeddi arweiniad sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am gymhwystra yn ogystal â sut i gynnig y gostyngiad.

Mae’r GIG wedi cyflwyno’r gwasanaeth profi ac olrhain i helpu i olrhain ymlediad coronafeirws.

Dewch o hyd i gymorth ariannol ar gyfer eich busnes yn sgil coronafeirws.

Cysylltu â CThEM

Gallwch gysylltu â CThEM am y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, os na allwch gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 9 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 September 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. The Eat Out to Help Out Scheme is now closed. A link has been added to the claim page.

  3. Businesses in England, Scotland, Wales or Northern Ireland are eligible to register for the scheme.

  4. 'What happens next' section updated to include the registration information that is available to the public. The 'Register' section now gives more information about which Government Gateway ID you can use.

  5. Added translation

  6. Added link to the register service for the Welsh.

  7. You can now register your business for the Eat Out to Help Out Scheme.

  8. First published.