Skip to Main Content

Mae Natur Wyllt yn brosiect sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd peillwyr, y camau y gallwn i gyd eu cymryd i’w cefnogi, a sut y gall y rhain gael effaith gadarnhaol ar faterion pwysig eraill megis lleihau’r dirywiad mewn bywyd gwyllt arall a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Cafodd y prosiect ei dreialu yn Nhrefynwy i ddechrau, a’i ariannu drwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru o dan fesur LEADER Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ac mae wedi bod yn ehangu’n araf i rannau eraill o’r sir.

Elfen allweddol o waith Natur Wyllt fu newid y ffordd y mae’r Cyngor Sir yn rheoli ei laswelltir ar ymylon ffordd, mannau agored a pharciau er mwyn creu lle ar gyfer natur. Cawsom ein calonogi’n fawr gan gefnogaeth y cyhoedd i’r newidiadau rydym wedi’u gwneud i’n ffordd o dorri gwair, ac ymddangosiad llawer mwy o flodau gwyllt yn ystod gwanwyn a haf 2020.

Arweiniodd y gwersi, a ddysgwyd o’r peilot ac yn ystod 2020, at gais llwyddiannus i Gronfa’r Loteri Treftadaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am grant sydd wedi ein galluogi i brynu peiriannau ‘torri a chasglu’ arbennig, sy’n gallu torri glaswellt hirach a chael gwared ar y toriadau gwair.

Mae hyn yn golygu y gallwn reoli ein glaswelltir yn fwy effeithiol a lle bo hynny’n briodol, cynyddu’r math hwn o reolaeth.

Mae’r cyllid hefyd yn ein galluogi i weithio gyda mwy o ysgolion a grwpiau cymunedol i egluro’r hyn yr ydym yn ei wneud, a pham ei bod yn bwysig gwneud lle i natur. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, hoffwch ein Tudalen Facebook neu dilynwch ein Ffrwd Twitter.

Yn Nhrefynwy mae dwsin o wirfoddolwyr wedi dechrau monitro mannau gwyrdd penodol gan gyfrif y blodau a’r peillwyr sy’n ymddangos mewn sgwâr 1 metr. Hoffem i fwy o wirfoddolwyr helpu i fesur effaith newidiadau i dorri mewn mannau eraill yn Sir Fynwy, gan y bydd yn ein helpu i ddeall a yw’n darparu mwy o flodau i beillwyr a newidiadau eraill i fannau gwyrdd sydd o fudd i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Os ydych am gymryd rhan, cysylltwch â ni – mae’n golygu ymweld â’r un lle unwaith y mis a chyfrif blodau a phryfed am 10 munud. Nid oes rhaid i wirfoddolwyr fod yn arbenigwyr na chael unrhyw wybodaeth arbennig. Mae fideo a chyfarwyddiadau ar gael i ddarpar wirfoddolwyr.


Cysylltwch

nin@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau

Un o amcanion prosiect peilot Natur Wyllt yw gweithio gyda’r criwiau cynnal a chadw tiroedd sy’n rheoli mannau agored ac ymylon ffordd.

I wneud hyn, cynhaliwyd gweithdy gyda’r criwiau i drafod beth oedd amcanion Natur Wyllt a sut y byddai eu harferion gwaith yn newid i wella’r ffordd y rheolir ardaloedd glaswelltog.

Diolch i chi gymryd rhan ac anfonwch eich sylwadau a’ch lluniau atom, byddem wrth ein bodd yn eu gweld. A lledaenwch y gair am y prosiect hwn hefyd, mae angen cymaint o bobl â phosibl arnom i helpu i ddechrau gwneud y newidiadau.