Ein 9 Amcan Llesiant ar gyfer 2022/27

Ein 9 Amcan Llesiant ar gyfer 2022/27
 Amcanion LlesiantEin bwriadau erbyn 2027...
1

Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol

  • Bydd gan bob plentyn ac unigolyn ifanc fynediad at addysg o ansawdd da ac ni fydd unrhyw ysgolion mewn mesurau arbennig
  • Byddwn wedi lleihau cyfran y bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen at addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Byddwn wedi sefydlu’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn llwyddiannus ar draws ein hysgolion er mwyn paratoi plant ac unigolion ifanc yn well at fyd sy’n newid
  • Byddwn yn diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol plant ac unigolion ifanc yn well gan eu helpu i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a chyrraedd eu llawn botensial
  • Bydd gennym fwy o gymorth er mwyn rhoi sylw i effeithiau negyddol Covid ar addysg pobl ifanc, er enghraifft oedi wrth ddysgu, gorbryder cynyddol, cymhlethdodau ymddygiad a phresenoldeb gwael
  • Byddwn wedi helpu i roi sylw i faterion recriwtio a materion yn ymwneud â’r gweithlu yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg
  • Yn gyfraneddol, bydd mwy o bobl yn ennill cymwysterau TGAU neu’r cywerth, y mae eu hangen arnynt er mwyn byw bywydau cadarnhaol
  • Bydd mwy o bobl yn ymgymryd ag addysg gymunedol a sgiliau sylfaenol a fydd yn gymorth iddynt i gael swyddi
  • Byddwn yn datblygu rôl yr ysgol yn y gymuned a rôl y gymuned wrth gefnogi ein hysgolion
2

Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu

  • Bydd mwy o blant yn cael gofal plant ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfrannu at ddyheadau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru
  • Bydd mwy o deuluoedd yn defnyddio’r rhaglen Dechrau’n Deg
  • Bydd mwy o ysgolion ag arnynt angen buddsoddiad gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael eu moderneiddio
  • Bydd mwy o blant a phobl ifanc yn rhan uniongyrchol o benderfyniadau’r cyngor ac yn dylanwadu ar siâp gwasanaethau’r cyngor
  • Byddwn wedi lleihau ein poblogaeth o Blant sy’n Derbyn Gofal a bydd cyfran uwch yn byw gyda gofalwyr maeth mewnol
  • Byddwn wedi cynyddu nifer y gofalwyr maeth mewnol sydd â’r sgiliau i reoli sefyllfaoedd cymhleth
  • Byddwn wedi datblygu opsiynau llety therapiwtig yn y sir ar gyfer plant ag anghenion cymhleth
  • Byddwn yn gweithio gyda mwy o bobl ifanc er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan atal pobl rhag mynd i mewn i’r system gyfiawnder troseddol
  • Byddwn wedi cefnogi mwy o ffoaduriaid i ymgartrefu yn ein cymunedau
  • Byddwn yn hyrwyddo rôl ac anghenion gofalwyr ifainc yn y gymuned, er mwyn iddynt allu defnyddio gwasanaethau mewn ffordd deg
  • Byddwn yn amddiffyn plant rhag sylweddau a chynnyrch niweidiol trwy gynnal ymarferion prawf-brynu gyda phartneriaid mewn perthynas â gwerthu nwyddau sydd ag oed cyfyngedig, er enghraifft alcohol, tybaco a chyllyll
3 Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus
  • Byddwn yn anelu at atal pob teulu ac unigolyn rhag dod yn ddigartref, trwy ymyriad a chymorth wedi’u targedu
  • Byddwn yn lleihau digartrefedd trwy weithio gyda phartneriaid i sicrhau gwell mynediad at lety addas a gwasanaethau cymorth
  • Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i’w cefnogi i ddod yn fwy cydnerth ac yn llai dibynnol ar wasanaethau statudol
  • Bydd mwy o bobl yn dod yn fwy annibynnol gartref a thrwy ddefnyddio gwasanaethau yn eu cymuned wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau ail-alluogi yn y gymuned ymhellach
  • Byddwn yn sicrhau bod plant ag anableddau yn cael gwasanaeth o ansawdd da sy’n hyrwyddo bywyd teuluol, annibyniaeth a mynediad at gyfleusterau cymunedol
  • Byddwn wedi helpu i roi sylw i rai o effeithiau difrifol yr argyfwng costau byw a bydd dewis o gymorth ariannol ar gael i’r rheiny â’r mwyaf o angen amdano
  • Byddwn yn dod â thai preifat newydd a thai fforddiadwy i’r farchnad trwy weithio gyda pherchnogion tir er mwyn dod o hyd i ddarnau newydd o dir ar gyfer tai
  • Byddwn yn darparu prydau bwyd am ddim i bob plentyn oed meithrin a chynradd
  • Byddwn yn gweithio’n gyda’n partneriaid a busnesau er mwyn darparu swyddi cynaliadwy da yn y Fwrdeistref sy’n galluogi pobl i fyw’n dda
  • Byddwn yn gwella safonau tai ac yn adnabod risgiau i iechyd a diogelwch trwy ymateb i gŵynion gan drigolion ynghylch eiddo a rentir yn breifat, ac yn dysgu o’r cwynion hynny
  • Bydd mwy o bobl yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain trwy fwy o ddefnydd o dechnoleg gynorthwyol 
4

Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn gorfforol

  • Bydd mwy o bobl yn dewis trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o deithio at ddibenion cymdeithasol a busnes a bydd mwy o drenau yn aros yng Ngorsafoedd Trenau Cwmbrân, Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd
  • Bydd gennym fwy o lwybrau teithio llesol a mwy o bobl yn cerdded ac yn seiclo, a bydd gwell hygyrchedd i bobl anabl er mwyn iddynt allu mwynhau eu hamgylchedd lleol
  • Bydd mwy o bobl yn teithio mewn cerbydau trydan a chefnogir hynny trwy gynyddu nifer y mannau gwefru cerbydau trydan yn y sir
  • Byddwn yn gweithio gyda mwy o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol er mwyn gwella amgylcheddau lleol a chymunedau
  • Bydd mwy o bobl yn cael mynediad at wasanaethau’r cyngor trwy ddefnyddio Wi-Fi sy’n gyflymach ac ar gael yn ehangach
  • Byddwn yn defnyddio datrysiadau digidol i’n helpu i fonitro sut y mae pobl yn defnyddio canol ein trefi
  • Bydd llai o bobl wedi eu hallgau yn ddigidol diolch i fynediad gwell at fand eang
5

Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol

  • Byddwn wedi cynyddu arwynebedd y tir sy’n eiddo i’r cyngor a reolir ar gyfer bioamrywiaeth
  • Byddwn yn dod ymlaen yn dda tuag at gyrraedd ein targed o fod yn garbon sero net erbyn 2030
  • Byddwn wedi rhagori ar ein targedau ailgylchu a byddwn yn casglu dewis ehangach o ddeunyddiau i’w hailgylchu
  • Byddwn yn cau’r rhwyd ar droseddau amgylcheddol er mwyn atal sbwriel, tipio sbwriel yn anghyfreithlon a baw cŵn
  • Byddwn yn meithrin mwy o falchder yn ein bro trwy gynnig mwy o gymorth i weithredu amgylcheddol yn y gymuned
  • Bydd adeiladau’r cyngor yn defnyddio llai o danwydd ffosil a bydd adeiladau addas yn cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan adnewyddadwy
  • Bydd mwy o’n cerbydau yn rhai sy’n isel iawn o ran allyriadau, gan leihau ôl troed carbon cyffredinol y cyngor
  • Byddwn wedi cynyddu gorchudd coed y fwrdeistref ac wedi sefydlu perllannau newydd er mwyn dal mwy o garbon a hyrwyddo bioamrywiaeth
  • Byddwn wedi hyfforddi dros 1,000 o hyrwyddwyr hinsawdd er mwyn i staff helpu pobl i ddeall effaith eu penderfyniadau ar y newid yn yr hinsawdd
  • Byddwn wedi datblygu gwarchodfa natur leol newydd er mwyn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn yr amgylchedd a chreu mannau a drysorir y gall ein cymunedau eu mwynhau
  • Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn uchafu’r cyfleoedd am nawdd i harddu’r amgylchedd naturiol lleol a chyflwr parciau a mannau awyr agored cyhoeddus lleol
  • Byddwn yn gwella ansawdd yr aer yn y fwrdeistref ac yn cymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd
6

Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd

  • Byddwn wedi cefnogi busnesau yn y sir i dyfu’n economaidd drwy helpu trigolion i gael swyddi medrus, llewyrchus a diogel
  • Byddwn wedi annog twf yn nifer y mentrau bach a chanolig, microfusnesau a busnesau sy’n dechrau o’r newydd
  • Byddwn yn creu ecosystem arloesi er mwyn hyrwyddo ymchwil a datblygiad lleol yn ein busnesau i’w helpu i dyfu ac i ddod yn fwy llewyrchus
  • Byddwn wedi hyrwyddo Torfaen fel lle i fuddsoddi ac wedi gweithio gyda datblygwyr i drawsnewid safleoedd tir llwyd at ddibenion cyflogaeth
  • Byddwn wedi adnabod darnau newydd o dir diwydiannol/cyflogaeth, gan weithio gyda pherchnogion tir i ddod â nhw i’r farchnad
  • Byddwn wedi gyrru gwariant yn ein heconomi leol i fyny trwy wella sgiliau lleol a thrwy ein gwariant ni ein hunain fel cyngor
  • Byddwn wedi uwchsgilio’r gweithlu lleol i ddenu cyflogwyr a’u cadw
  • Byddwn yn defnyddio rhai o adeiladau’r cyngor yn wahanol er mwyn annog cefnogaeth ar gyfer busnesau newydd a diwydiannau newydd
7

Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol

  • Bydd gan bob ysgol gynllun i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol staff a dysgwyr
  • Dylai pob disgybl fod yn gallu cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch bob dydd
  • Byddwn yn ehangu’r cymorth iechyd meddwl i bobl o bob oed
  • Byddwn yn ehangu cyfleusterau chwarae cynhwysol sy’n addas i bob plentyn
  • Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu dewis o wasanaethau er mwyn i fwy o drigolion allu cael mynediad at weithgareddau gwirfoddoli a chymryd rhan ynddynt
  • Byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen er mwyn i ddisgyblion ysgol gael gwell mynediad at gyfleusterau
  • Byddwn yn datblygu gwasanaethau cymorth cymunedol ac yn lleihau nifer yr oedolion a’r plant ag arnynt angen gofal ffurfiol
  • Byddwn yn cynnal arolygiadau o fusnesau bwyd yn Nhorfaen er mwyn sicrhau bod y bwyd yn ddiogel a’r busnesau bwyd yn dweud y gwir am eu bwyd
  • Byddwn yn datblygu strategaeth chwaraeon a hamdden gyda’n partneriaid er mwyn i fwy o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau iach ac er mwyn cynyddu cyfleoedd i fwy o bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
8

Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a threftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag ef

  • Byddwn yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld â chyrchfannau i dwristiaid yn Nhorfaen gan gynnwys Fferm Gymunedol Greenmeadow a fydd wedi ei hadfywio
  • Byddwn yn adnewyddu canol ein trefi ac yn annog economi gyda’r nos gyda mwy o ymwelwyr yn mwynhau llefydd bwyta ac yfed o ansawdd uchel
  • Bydd Nant Blaengafog ar Y British yn cael ei thynnu allan o gylfatiau ac yn llifo mewn sianel newydd fel cam cyntaf y cynllun meistr ar gyfer Y British
  • Byddwn wedi lleihau lefel yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r trais difrifol yn ein cymunedau
  • Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn uchafu cyfleoedd am nawdd sy’n gwella ymddangosiad cymunedau a chanol trefi ac yn helpu hyrwyddo balchder yn ein bro
  • Byddwn yn hyrwyddo Torfaen fel ‘Cyrchfan’, gan weithio gyda’n hatyniadau neilltuol i ymwelwyr er mwyn i ni allu cynnig pecynnau deniadol i ymwelwyr sy’n dod yma am y dydd ac yn aros dros nos, gan gynnwys safleoedd ar draws y Fwrdeistref
9

Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

  • Byddwn yn gyngor effeithiol sydd wedi ein galluogi’n ddigidol ac sy’n darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol gan alluogi mwy o drigolion i gwblhau eu trafodion ar-lein
  • Byddwn yn rhagweithiol wrth ddangos y ffordd i drigolion at ddewis ehangach o wybodaeth a gwasanaethau atal, er mwyn hyrwyddo llesiant a chynyddu nifer y bobl sy’n cael gwybodaeth a chefnogaeth gan eu cymuned
  • Bydd mwy o drigolion yn cael mynediad at wybodaeth gyhoeddus, cyngor ac arweiniad ar unrhyw adeg, yn unrhyw fan ac yn unrhyw ardal
  • Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu dylunio i adlewyrchu anghenion cwsmeriaid ac nid anghenion busnes, trwy gynnwys cwsmeriaid ac ymgysylltu ac ymgynghori â nhw, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn gwrando ac yn gwella

 

Diwygiwyd Diwethaf: 15/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig