Gwasanaeth Mynwentydd

Gwasanaeth Mynwent y Cyngor sy'n gyfrifol am: Mynwent BlaenafonMynwent CwmbrânMynwent Llwyncelyn a Mynwent Panteg

Mae'r swyddfa wedi'i lleoli ym Mynwent Llwyncelyn,  Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân, Torfaen, NP44 7PF.

Dyma’r amserau agor:   

  • Dydd Llun i ddydd Iau - 8am - 4pm 
  • Dydd Gwener - 8am - 3.30pm 

Sylwch fod y swyddfa ar gau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc. 

Cynhelir claddedigaethau rhwng 10am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 10am a 2.30pm ar ddydd Gwener.. 

Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth drwy ymweld â'r swyddfa neu drwy ffonio 01495 766150 neu cemeteryenquiries@torfaen.gov.uk.  

Cynnal a chadw mynwentydd

Caiff beddau eu lefelu, a chaiff y borfa ei ailosod chwe mis ar ôl claddu. Defnyddir tyweirch yn ystod y gaeaf a hadau yn y gwanwyn a'r haf.

Os ydych chi am ailosod tyweirch neu ail-hau bedd anwylyd, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent.   

Mae porfa’n cael ei dorri bob pythefnos, o fis Ebrill tan fis Medi, fodd bynnag, gall fod oedi os bwriedir cynnal claddedigaethau pan fydd hi’n amser torri porfa.  

Mae ardal y ddôl yn Llwyncelyn yn cael ei thorri ddwywaith y flwyddyn. Rheolir ardaloedd eraill sydd wedi eu dethol, i gefnogi bioamrywiaeth.     

Os oes gennych bryderon am fedd sy’n suddo, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent. 

Perchen ar fedd 

Gall unigolyn neu unigolion ar y cyd berchen ar fedd. Dim ond y perchennog neu'r perchnogion all benderfynu pwy sy’n cael ei gladdu yn y bedd, y math o garreg goffa ac unrhyw arysgrifau ychwanegol. Rhaid adnewyddu perchnogaeth ar feddau a brynwyd ar ôl Awst 2001, ar ôl 75 mlynedd, neu bydd y bedd yn dychwelyd i'r cyngor. 

Os ydych yn dymuno trosglwyddo perchnogaeth bedd, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent.  

Ni ellir prynu beddau ymlaen llaw. 

Os ydych chi'n berchen ar fedd, rhowch wybod i Swyddfa'r Fynwent os yw eich cyfeiriad yn newid.  

Ni chaniateir yr eitemau canlynol ar feddau am resymau diogelwch ac amgylcheddol ac i sicrhau bod y fynwent yn cynnal ei natur heddychlon: 

  • Canhwyllau
  • Gwydr
  • Balwnau
  • Cerrig mân, heblaw am y rhai a osodwyd gan staff y fynwent
  • Eitemau sy’n gwneud sŵn neu’n taflu golau
  • Porfa artiffisial heb ganiatâd ymlaen llaw
  • Unrhyw blanhigyn dros 500mm o uchder
  • Unrhyw beth sy’n cael ei osod mewn coeden neu perth

Cysylltir â theuluoedd yn ysgrifenedig unwaith, gan ofyn iddynt dynnu eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu o feddau. Bydd unrhyw eitemau nad ydynt yn cael eu tynnu yn cael eu cymryd i ffwrdd a'u cadw yn y storfa am fis. Bydd unrhyw eitemau eraill nad ydynt yn cael eu caniatáu yn cael eu tynnu oddi yno heb rybudd. 

Bydd eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu, sydd wedi'u gosod ger beddau, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u gosod mewn coed a pherthi, yn cael eu tynnu gan staff y fynwent.  

Bydd torchau Nadolig yn cael eu tynnu gan staff ar ôl 31 Ionawr. 

Cerrig coffa 

Gall saer cerrig coffa gynghori ar gerrig coffa addas ar gyfer y fynwent o’ch dewis. Cyfrifoldeb perchennog y bedd yw cynnal a chadw’r garreg. Dylai unrhyw waith glanhau neu atgyweirio, gael ei wneud gan saer cerrig coffa.

Os yw staff y fynwent yn gweld carreg goffa sy'n edrych yn ansefydlog, am resymau iechyd a diogelwch, byddant yn ei rhoi i lawr ar y bedd. 

I ofyn am garreg goffa neu arysgrif ychwanegol, lawr lwythwch Ffurflen Gais Cerrig Coffa a’i hanfon i memorials@torfaen.gov.uk

Mae Seiri cerrig coffa yn aml yn gwneud hyn ar ran perchnogion beddau. 

I brynu plac coffa ar fainc mewn mynwent, cysylltwch â Swyddfa’r Fynwent. 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddfa'r Fynwent

Ffôn: 01495 766150

E-bost: cemeteryenquiries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig