Marchnad Dan do Pont-y-pŵl

Marchnad Dan do Pont-y-pŵl

Ynglŷn â Marchnadoedd Pont-y-pŵl

Ym 1690 rhoddwyd caniatâd i Bont-y-pŵl gynnal marchnad fach wythnosol yn gwerthu 'gwartheg a nwyddau o bob math'. Ers hynny, mae marchnadoedd wedi bod wrth galon Pont-y-pŵl. Mae'r dref yn ymfalchïo yn y traddodiad hwn heddiw gyda chyfleusterau marchnad dan do ac awyr agored rhagorol i weddu i bob angen, yn cynnwys:

  • Neuadd Farchnad Fictoraidd ffyniannus sydd wedi derbyn dros £2m o fuddsoddiad yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf
  • Marchnad awyr agored wythnosol fywiog sy'n cael ei chynnal bob dydd Mercher
  • Marchnadoedd arbenigol crefft a hen bethau trwy gydol y flwyddyn

Siopa yn y Farchnad

Mae marchnadoedd dan do ac awyr agored Pont-y-pŵl yn lleoedd ar gyfer lluniaeth, adloniant a gweithgarwch. Mae'n rhywle y gallwch brynu eitemau unigryw, bwyd lleol ffres, crefftau a hen bethau. Mae hefyd yn gartref i rai gwasanaethau cyfleus o ansawdd gwych fel barbwyr, poptai, siopa addasu dillad ac allfeydd bwyd cyflym iachus.

Amserau Agor

  • Dydd Llun  -  8am - 2pm
  • Dydd Mawrth – ddydd Gwener  - 8am - 5pm
  • Dydd Mercher  -  Marchnad Awyr Agored
  • Dydd Sadwrn  -  8am - 4pm

Masnachu yn y Farchnad

Mae marchnadoedd Pont-y-pŵl bob amser yn chwilio am fasnachwyr brwdfrydig sy'n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel a phrofiad siopa amrywiol i gwsmeriaid yng nghanol Pont-y-pŵl.

Mae gan farchnad dan do Pont-y-pŵl lawer o unedau ar rent, o unedau arlwyo â systemau awyru i stondinau achlysurol sy'n cynnig hyblygrwydd i fasnachwyr. Mae prisiau rhent yn fforddiadwy ac yn gystadleuol, a gall busnesau newydd elwa o'n cyfleoedd i arbrofi yn y byd masnachu gyda gostyngiad o hyd at 30% mewn rhenti am y chwe mis cyntaf. Gall masnachwyr hefyd elwa o raglenni cymorth a marchnata busnes a menter broffesiynol. 

I gael mwy o wybodaeth am fasnachu yn y farchnad cysylltwch â Rheolwr y Farchnad ar 01495 742757, e-bostiwch pontypoolmarketmanager@torfaen.gov.uk neu llenwch Ffurflen Mynegi Diddordeb - Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Mae'r farchnad dan do wedi'i lleoli yng nghanol tref Pont-y-pŵl ac mae mynediad iddi o Market Street, Crane Street a Commercial Street. Y cod post yw NP4 6JW.

Mae'r farchnad awyr agored yn cael ei chynnal bob dydd Mercher a gan amlaf mae hi ar George Street a Crane Street.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/08/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Marchnad Dan do Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 752822

Ebost: pontypoolmarketmanager@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig