Enwi cerbydau ailgylchu

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Ionawr 2023

Mae canlyniadau ein cystadleuaeth i ysgolion cynradd i enwi rhai o gerbydau ailgylchu newydd Cyngor Torfaen wedi cael eu cyhoeddi.

Buddsoddodd y Cyngor £2,793,864  yn ddiweddar mewn 19 o gerbydau ailgylchu newydd, fel rhan o’i ymrwymiad i gynyddu ailgylchu yn y fwrdeistref o 64 y cant i darged Llywodraeth Cymru o 70 y cant erbyn 2025.

Gofynnwyd i ddisgyblion feddwl am enwau a oedd yn cydweddu ag ymgyrch lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu Cyngor Torfaen, yn ogystal â’n cenhadaeth at Dorfaen Sero Net.

A’r enwau buddugol yw….

  • Eco Rico a Lightning McClean,  a GREGG – Green Recycling Eco Garbage Grabber, disgyblion grŵp Cwricwlwm Blwyddyn 6, Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio
  • Arwr ailgylchu, Huw James, Blwyddyn 6, Ysgol Gymraeg Cwmbrân
  • Lamborgreenie, Donald Dump a Bin Diesel, Maisie Frazier, Blwyddyn 6, Ysgol Gynradd Y Dafarn Newydd
  • Larry the Landfill Dodger a Ruby the Recycling Van, disgyblion Pwyllgor Eco Ysgol Gynradd Maendy
  • Leck-e (Leckie), Plug in Pete a Greta Binberg, Matilda Magor, Ethan Brodrick, Tomos Llewellyn, Ysgol Gynradd Llanyrafon

Bydd yn enillwyr yn cael taleb Smyths gwerth £15 a nwyddau eraill gan Romaquip, sydd wedi cyflenwi’r cerbydau ailgylchu newydd.  Bydd eu cyd-ddisgyblion yn cael ymweliad gan

Dan Can ac un o gynigion ailgylchu’r Cyngor i gymryd rhan mewn gwers ailgylchu.

Ymunodd y cerbyd ailgylchu newydd cyntaf â’r fflyd fis Hydref ac, ers hynny, mae 17 wedi cael eu hychwanegu. Mae disgwyl i’r 19eg cerbyd, a’r olaf, gyrraedd yr heolydd yn nes ymlaen yr wythnos yma.

Mae gan y cerbydau newydd gamerâu 360 gradd, a fydd yn helpu gyda hyfforddi staff ac ymholiadau cwsmeriaid, ac mae ganddyn nhw waith celf fywiog i helpu i hyrwyddo ailgylchu wythnosol.

Y llynedd buddsoddodd y Cyngor £893,000  mewn dau gerbyd gwastraff trydan i helpu i leihau allyriadau carbon.

Dysgwch fwy am ailgylchu a gwastraff yn Nhorfaen.

Dysgwch fwy am sut mae’r Cyngor yn ymateb i’n datganiad newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2023 Nôl i’r Brig